Jason Walford Davies
bardd o Gymru a beirniad llenyddol
Beirniad llenyddol a bardd yw Jason Walford Davies (ganwyd yn Aberystwyth yn 1971). Bu'n ddarlithydd yn Adran Gymraeg Prifysgol Cymru, Bangor, cyn ei benodi'n Athro. Mae ei waith ymchwil wedi arbenigo ar ddylanwad y traddodiad llenyddol Cymraeg ac ar R. S. Thomas. Mae'n Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil R. S. Thomas. Roedd ei gyfrol Gororau'r Iaith: R. S. Thomas a'r Traddodiad Llenyddol Cymraeg, ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2004.
Jason Walford Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1971 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | darlithydd, llenor |
Mam | Hazel Walford Davies |
Enillodd ei bryddest, Egni, y goron iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Casnewydd 2004.
Mae'n efaill i Damian Walford Davies.
Llyfryddiaeth
golygu- Gororau'r Iaith: R. S. Thomas a'r Traddodiad Cymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Gorffennaf 2003)
- Cof ac Arwydd - Ysgrifau ar Waldo Williams, golygydd ar y cyd efo Damien Walford Davies (Cyhoeddiadau Barddas, Tachwedd 2006)