Heddlu Hong Cong
Heddlu sydd dan Fiwro Diogelwch Hong Cong yw Heddlu Hong Cong (Saesneg: Hong Kong Police Force, Tsieineeg: 香港警務處). Sefydlwyd ar 1 Mai 1844. Derbynodd y Siarter Frenhinol gan y Frenhines Elisabeth II ym 1969 am waith y llu yn ystod terfysgoedd 1967, a newidiwyd yr enw i Heddlu Brenhinol Hong Cong. Yn dilyn trosglwyddiad sofraniaeth Hong Cong i Weriniaeth Pobl Tsieina, enw'r heddlu unwaith eto yw Heddlu Hong Cong.[1]
Math o gyfrwng | heddlu tiriogaethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1 Mai 1844 |
Lleoliad yr archif | Hong Kong Baptist University Library Special Collections & Archives |
Pennaeth y sefydliad | Commissioner of Police |
Rhiant sefydliad | Security Bureau |
Pencadlys | Hong Kong Police Headquarters |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Gwefan | https://www.police.gov.hk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Comisiynydd yr Heddlu yn 2015 oedd Lo Wai Chung.[2] Gan gynnwys Heddlu Cynorthwyol Hong Cong a gweision sifil, mae gan yr heddlu weithlu o 40,000, ac felly Hong Cong sydd â'r gymhareb uchaf o ddinasyddion i heddweision yn y byd ond am un. Yn ogystal, mae gan Heddlu Morol Hong Cong 3,000 o swyddogion a 143 o gychod, y mwyaf sydd gan unrhyw heddlu sifil yn y byd.[3][4][5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Carroll, John M. (2007). A Concise History of Hong Cong. Rowman & Littlefield. ISBN 0-7425-3422-7.
- ↑ (Saesneg) Hong Kong Police Force. Hong Kong Police Force – Organization Structure: Senior Officers. Adalwyd ar 3 Mawrth 2011.
- ↑ (Saesneg) Police History: Overview – The Future.
- ↑ (Tsieinëeg) 香港警務處-警隊歷史.
- ↑ (Tsieinëeg) 水警總區.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) (Tsieinëeg) Gwefan swyddogol