Heiddwen Tomos
Awdur o ardal Llanybydder yw Heiddwen Tomos.[1]
Heiddwen Tomos | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Derbyniodd radd mewn Cymraeg a Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth lle datblygwyd ei diddordeb mewn ysgrifennu creadigol. Enillodd wobr Stori Fer cylchgrawn Taliesin a BBC Radio Cymru yn 2015. Mae'n bennaeth y Gyfadran Celfyddydau Mynegiannol yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul. Mae ei llwyddiannau pennaf hyd yma yn cynnwys ennill Cadair Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifainc Ceredigion ddwywaith, Medal Ryddiaith Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan yn 2012, dod yn ail am y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, a'i hennill yn Eisteddfod Môn 2017. Daw ei dylanwadau mwyaf o'i phrofiadau fel merch y wlad sy'n byw ym mro ei mebyd. Daw ei hysgrifennu o'r profiadau hyn, wedi eu cymysgu â chryn dipyn o ddychymyg.
Cyhoeddwyd y gyfrol Dŵr yn yr Afon gan Wasg Gomer yn 2017.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "www.gwales.com - 1785622048". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.
Gwybodaeth o Gwales |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Heiddwen Tomos ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |