Agor y brif ddewislen

Llanybydder

tref farchnad yn Sir Gaerfyrddin

Tref farchnad hanesyddol a chymuned ar ochr Sir Gaerfyrddin o lannau Afon Teifi, 9 km (5.5 milltir) o Lanbedr Pont Steffan yw Llanybydder. Saif ar y briffordd A485 rhwng Llanbedr a Chaerfyrddin.

Llanybydder
Eglwys Sant Pedr Llanybydder - geograph.org.uk - 739953.jpg
Eglwys Sant Pedr
Math Cymuned, tref farchnad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Gerllaw Afon Teifi Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Aberteifi Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.0728°N 4.1565°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000544 Edit this on Wikidata
Cod OS SN523438 Edit this on Wikidata
Cod post SA40 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Adam Price (Plaid Cymru)
AS/au Jonathan Edwards (Plaid Cymru)

Mae Cymuned Llanybydder yn cynnwys pentref gwledig Rhydcymerau a leolir 8.5 cilometr (5 milltir) i'r de-ddwyrain, dros Fynydd Llanybydder.

Cynrychiolir cymuned Llanybydder yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Plaid Cymru).[1][2]

Economi a chymdeithasGolygu

Mae'r dref yn enwog am ei ffeiriau ceffylau a gynhelir ar Ddydd Iau olaf pob mis. Mae'r Ffair wedi lleihau cryn dipyn ers yr Ail Ryfel Byd, ond mae'n dal i ddenu gwerthwyr a phrynwyr o bob cwr o Brydain ac Iwerddon.

Prif gyflogwr y cylch yw Dunbia (Dungannon Meats), sef lladd-dy a phrosesfa gig, ac mae'n cyflogi hyd at 400 o bobl - y mwyafrif mawr ohonynt yn weithwyr o Wlad Pwyl a gwledydd eraill yn Nwyrain Ewrop. Mae hyn wedi cael cryn ddylanwad ar natur y gymuned leol. Cyn y mewnlifiad hyn, roedd tua 70% o'r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg.

Pobl o LanybydderGolygu

Brodor o'r dref oedd y baledwr dall Dafydd Jones (Dewi Dywyll) (Deio'r Cantwr neu Dewi Medi) (1803-1868).

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanybydder (pob oed) (1,638)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanybydder) (897)
  
57.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanybydder) (1040)
  
63.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llanybydder) (263)
  
38.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013