Heilyn Fardd

bardd na wyddys dim am ei fywyd

Bardd a brudiwr yn y canu darogan Cymraeg oedd Heilyn Fardd neu Hywel Heilyn. Mae rhai llawysgrifau yn awgrymu y gellid ei uniaethu â'r bardd Hillyn (bl. ail chwarter y 14g) ond mae'r brudiau a dadogir arno yn fwy diweddar.[1]

Heilyn Fardd
GanwydLlangeitho Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd14 g Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaYnys Môn Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Cysylltir Hillyn ag ardal Llangeitho, Ceredigion, ond ceir awgrym mewn un o'i gerddi ei fod yn enedigol o Ynys Môn. Cofnodir hefyd un 'Heilin varth' (Heilyn Fardd) ym Môn mewn dogfen o 1351/2. Os oedd Hillyn yn frodor o'r ynys mae'n bosibl felly mai'r un oedd ef a Heilyn, ond gwrthodir hynny yn y golygiad safonol diweddar o waith Hillyn gan Ann Parry Owen.[1]

Gellir dadlau hefyd mai bardd dychmygol y priodolir cerddi iddo yn y canu darogan yw 'Heilyn Fardd' neu fod brudiau diweddarach gan feirdd anhysbys yn cael eu tadogi ar (Hywel) Heilyn am fod ganddo enw fel brudiwr.[1]

Cerddi

golygu

O'r cerddi a dadogir ar Heilyn Fardd ac eraill yn y llawysgrifau mae'r rhai a dadogir arno fo a neb arall yn perthyn i ganol y 15g, yn ôl pob tebyg. Maent yn cynnwys fersiwn o'r gyfres o englynion sy'n dechrau gyda'r geiriau cyrch 'Coronog Faban...'; priodolir fersiynau eraill i frudwyr eraill yn cynnwys Taliesin Ben Beirdd.[1]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill, gol. Ann Parry Owen (Aberystwyth, 1996)

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac eraill (Aberystwyth, 1996).