Helena o Gaergystennin

gwraig gyntaf yr ymerawdwr Rhufeinig Constantius Chlorus, a mam yr ymerawdwr Cystennin Fawr (250-330)

Gwraig yr ymerawdwr Rhufeinig Constantius Chlorus a mam yr ymerawdwr Cystennin Mawr oedd Flavia Iulia Helena Augusta neu Helena o Gaergystennin (tua 250 – tua 330). Ei dydd gŵyl yw 18 Awst.

Helena o Gaergystennin
Ganwydc. 250 Edit this on Wikidata
Helenopolis Edit this on Wikidata
Bu farw18 Awst 330 Edit this on Wikidata
Caergystennin, Nicomedia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl18 Awst, 21 Mai, 19 Mawrth, 3 Mehefin Edit this on Wikidata
PriodConstantius Chlorus Edit this on Wikidata
PlantCystennin I Edit this on Wikidata
Llinachllinach Cystennin Edit this on Wikidata

Credir ei bod yn enedigol o Drepanum, a dywedir fod ei thad yn cadw gwesty. Ysgarodd Constantius Chlorus hi tua 289 er mwyn priodi Theodora, llysferch Maximianus. Pan ddaeth ei mab Cystennin yn ymerawdwr, rhoddwyd y teitl "Augusta" iddi. Dywedir iddi fynd ar bererindod i Jeriwsalem a darganfod rhan o'r groes y croeshoeliwyd Iesu Grist arni. Ystyrir hi yn sant gan yr Eglwys Uniongred a'r Eglwys Gatholig. Hi yw nawdd-santes archaeolegwyr.

Credir fod cymeriad Elen Luyddog yn y chwedl Gymreig Breuddwyd Macsen Wledig wedi ei seilio yn rhannol ar Helena. Ymddengys hefyd fel cymeriad yng ngwaith Sieffre o Fynwy.