Helgi Rhodesaidd
Helgi sy'n tarddu o ranbarth De Affrica yw'r Helgi Rhodesaidd[1] (Saesneg: Rhodesian Ridgeback). Datblygwyd yr helgi hwn drwy fridio ci hela brodorol hanner gwyllt gyda nifer o gŵn Ewropeaidd. O'r ci Affricanaidd y daw nodwedd y Helgi Rhodesaidd sy'n rhoi iddo ei enw Saesneg: llinell o flew ar hyd ei gefn sy'n tyfu tua'r blaen, yn erbyn cyfeiriad y gweddill o'r gôt.[2]
Math o gyfrwng | brîd o gi |
---|---|
Math | ci |
Màs | 36.5 cilogram, 32 cilogram |
Gwlad | Rhodesia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Datblygwyd yn gyntaf yn Nhrefedigaeth y Penrhyn (De Affrica heddiw) ond yn Bulawayo, Rhodesia (Simbabwe heddiw), y bridiodd F. R. Barnes y brîd safonol. Gwaith gwreiddiol y Helgi Rhodesaidd oedd dilyn trywydd helfilod, yn enwedig llewod, ac i gornelu'r anifail nes bo'r heliwr yn cyrraedd. Mae cyflymder y ci yn ei alluogi i gadw anifeiliaid mwy o faint tu draw.[3]
Mae'n gi cryf a gweithgar gyda chlustiau llipa a chôt loyw o flew byr o liw brown-felyn i frown-goch. Mae ganddo daldra o 61 i 69 cm (24 i 27 modfedd) ac yn pwyso 32 i 39 kg (70 i 85 o bwysau). Yn ogystal â helgi da, mae'r Helgi Rhodesaidd hefyd yn warchotgi a chi cymar addas.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [Rhodesian].
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Rhodesian ridgeback. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) Rhodesian Ridgeback. Fédération Cynologique Internationale. Adalwyd ar 28 Medi 2014.