Gwlad yn Affrica Ddeheuol yw Gweriniaeth Simbabwe neu Simbabwe (hefyd Zimbabwe). Lleolir y wlad rhwng afonydd Zambezi a Limpopo. Mae'n ffinio â De Affrica i'r de, â Botswana i'r gorllewin, â Sambia i'r gogledd ac â Mosambic i'r dwyrain ac nid oes ganddi fynediad i'r môr. Harare yw prifddinas y wlad. Cyn annibyniaeth roedd Simbabwe (Rhodesia) yn wladfa Brydeinig.

Zimbabwe
ArwyddairUndeb, Rhyddid, Gwaith Edit this on Wikidata
Mathgweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSimbabwe Fawr Edit this on Wikidata
PrifddinasHarare Edit this on Wikidata
Poblogaeth15,178,979 Edit this on Wikidata
SefydlwydAnnibyniaeth ar 18 Ebrill 1980
AnthemAnthem Genedlaethol Simbabwe Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethEmmerson Mnangagwa Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, Africa/Harare Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Shona, Ndebeleg y Gogledd, Chichewa, Barwe, Kalanga, Ieithoedd Khoisan, Ndau, Tsonga, Iaith Arwyddo Simbabwe, Sesotho, chitonga, Setswana, Venda, Xhosa, Nambieg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe Affrica, Dwyrain Affrica Edit this on Wikidata
GwladBaner Simbabwe Simbabwe
Arwynebedd390,757 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSambia, Mosambic, De Affrica, Botswana Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau19°S 30°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholSenedd Simbabwe Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Simbabwe Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethEmmerson Mnangagwa Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Simbabwe Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethEmmerson Mnangagwa Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$28,371 million, $20,678 million Edit this on Wikidata
Ariandoler yr Unol Daleithiau, punt sterling, Doler Awstralia, Ewro, Rand De Affrica, Yen, Renminbi, rupee Indiaidd, Zimbabwean dollar Edit this on Wikidata
Canran y diwaith5 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant3.923 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.593 Edit this on Wikidata
 
Rhan o furiau Simbabwe Fawr

Roedd Simbabwe yn ganolfan i ymerodraeth frodorol yn ne Affrica a'i phrifddinas yn Simbabwe Fawr. Mashona oedd y trigolion. Cawsant eu gorchfygu gan y Matabele. Cipiwyd tir y Matabele a'r Mashona gan yr anturiaethwr imperialaidd o Sais Cecil Rhodes a'r Cwmni Prydeinig De Affrica yn 1895 a chafodd ei henwi'n Rhodesia ar ei ôl.

Datganodd Ian Smith, prif weinidog gwyn y wlad, annibyniaeth unochrog (UDI) oddi ar Brydain yn 1965 a datganwyd gweriniaeth yno yn 1970.

Ar ôl rhyfel herwfilwrol hir daeth Robert Mugabe, arweinydd ZANU (PF), yn arlywydd y wlad (gweler isod), yn 1980.

Daearyddiaeth

golygu

Mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn gorwedd ar wastatir uchel, dros 3,300' (1000m) i fyny ar gyfartaledd. Mae llawer o'r tir yn safana.

Gwleidyddiaeth

golygu

Rhaniadau gweinyddol

golygu

Rhennir Simbabwe yn wyth talaith a dwy ddinas â statws taleithiol. Is-rennir y taleithiau hynny yn 59 ardal a 1,200 ardal ddinesig.

 
Taleithiau ac ardaloedd Simbabwe

Mae'r taleithiau'n cynnwys:

Ardaloedd: gweler Ardaloedd Simbabwe

Ardaloedd dinesig: gweler Ardaloedd dinesig Simbabwe

Economi

golygu

Demograffeg

golygu

Mae mwyafrif helaeth y bologaeth yn bobl Bantŵ. Ceir yn ogystal lleiafrif o bobl o dras Ewropeaidd ac Asiaidd, ond mae eu nifer wedi gostwng yn sylweddol mewn canlyniad i'r sefyllfa gwleidyddol diweddar.

Yn ôl cyfansoddiad 2013, mae gan Simbabwe 16 iaith swyddogol: Saesneg, iaith arwyddion a 14 iaith Affricanaidd; y pwysicaf ohonynt yw Ndebele a Shona.

Gweler hefyd

golygu