Helgoland
Ynys fechan yw Helgoland (Almaeneg; Helgolandeg: deat Lun; hefyd Heligoland weithiau, yn enwedig yn Saesneg) a leolir ym Môr y Gogledd oddi ar arfodir gogledd-orllewinol yr Almaen. Defnyddir yr enw i gyfeirio at Helgoland a'r ynys fechan gyfagos gyda'i gilydd weithiau hefyd. Mae'n rhan o dalaith Schleswig-Holstein. Mae'r trigolion yn Ffrisiaid sy'n siarad Halunder, tafodiaith Ffriseg. Ei hyd yw tua 2 km.
Math | coastal spa, ynysfor, non-urban municipality in Germany, car-free place |
---|---|
Prifddinas | Helgoland |
Poblogaeth | 1,253 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Millstatt am See |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Almaeneg, North Frisian |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | North Frisian Islands |
Sir | Pinneberg |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 4.21 km² |
Uwch y môr | 40 metr |
Gerllaw | Heligoland Bight |
Cyfesurynnau | 54.1825°N 7.8853°E |
Cod post | 27498 |
Cipwyd yr ynys gan Brydain yn 1807 a bu yn ei meddiant hyd 1890 pan ddychwelodd i feddiant yr Almaen. Roedd y môr o'i chwmpas, sef yr Heligoland Bight neu'r "German Bight" yn lleoliad i sawl brwydr rhwng llyngesoedd y DU a'r Almaen yn y Rhyfel Byd Cyntaf
Cyfansoddodd August Heinrich Hoffmann von Fallersleben "Das Lied der Deutschen" ar 26 Awst 1841 ar ynys Helgoland i gydfynd ag alaw gan Joseph Haydn.
Heddiw mae Helgoland yn gyrchfan gwyliau poblogaidd sy'n adnabyddus am ei tywynnau a chlogwynni lle ceir nifer o adar.