Ym mytholeg Roeg, duw'r Haul yw Helios (Groeg). Ym mytholeg y Rhufeiniaid fe'i gelwir yn Sol (Lladin).

Architrave with sculpted metope showing sun god Helios in a quadriga; from temple of Athena at Troy, ca 300-280 BCE; Altes Museum, Berlin (25308440197) (cropped) 1.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolduw Groeg, duwdod heulol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Codwyd Colossus Rhodes tua 280 CC i amddiffyn y fynedfa i harbwr Rhodes. Cafodd ei wneud allan o efydd ar lun dyn cydnerth, noeth neu led-noeth, a oedd yn cynrychioli Helios, duw'r Haul. Fe'i ystyrid yn un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd. Safai ar ddau ben y ddau forglawdd a amddiffynai'r harbwr a dywedir bod llongau dan hwyliau llawn yn medru pasio o dano.

Helios: penddelw Rhufeinig ym Maddondai Diocletian, Rhufain
Draig.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato