Henri Barbusse
Nofelydd a bardd Ffrengig yn yr iaith Ffrangeg oedd Henri Barbusse (17 Mai 1873 – 30 Awst 1935) sy'n nodedig am ei nofel Le Feu (1916) sy'n ymwneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Henri Barbusse | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Adrien Gustave Henri Barbusse ![]() 17 Mai 1873 ![]() Asnières-sur-Seine ![]() |
Bu farw | 30 Awst 1935 ![]() Moscfa ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, newyddiadurwr, sgriptiwr, cofiannydd, nofelydd, gwleidydd, arlunydd, bardd, hanesydd ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Under Fire ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol Ffrengig ![]() |
Mudiad | proletarian literature ![]() |
Priod | Hélyonne Mendès ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Goncourt, Cystadleuthau Cyffredinol, Croix de guerre 1914–1918 ![]() |
llofnod | |
Ganwyd yn Asnières-sur-Seine, ger Paris. Cychwynnod ar ei yrfa lenyddol gyda'r gyfrol o farddoniaeth newydd-Symbolaidd, Pleureuses (1895). Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Les Suppliants, yn 1903, a'r nofel newydd-Naturiolaidd L'Enfer yn 1908. Ymunodd â Byddin Ffrainc yn 1914 a gwasanaethodd yn droedfilwr ar Ffrynt y Gorllewin.
Wedi'r rhyfel, trodd Barbusse yn heddychwr ac yna'n gomiwnydd milwriaethus. Symudodd i'r Undeb Sofietaidd ac ysgrifennodd Staline (1935), bywgraffiad am Joseff Stalin. Bu farw ym Moscfa yn 62 oed.[1]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) Henri Barbusse. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Medi 2019.