Moscfa

prifddinas a dinas fwyaf Rwsia

Prifddinas Rwsia yw Moscfa ("Cymorth – Sain" ynganiad) ; hefyd: Moscow, Mosgo neu Mosgow; Москвá, sef Moscfa yn Rwsieg). Mae tua 12,655,050 (2021)[1] o bobl yn byw yn y ddinas ei hun a 17,125,000 (2020)[2] o gynnwys yr ardal ehangach, fetropolitan (sef y Московская агломерация). Mae arwynebedd y ddinas yn 2,511 cilomedr sgwâr (970 metr sgwâr), tra bod yr ardal ddinesig yn gorchuddio 5,891 cilomedr sgwâr (2,275 metr sgwâr), a'r ardal fetropolitan dros 26,000 cilomedr sgwâr (10,000 metr sgwâr).[3][4]

Moscfa
Moscow-City (36211143494).jpg
Coat of Arms of Moscow.svg
Mathprifddinas Rwsia, dinas ffederal o fewn Rwsia, dinas fawr, mega-ddinas, y dinas fwyaf, prifddinas, tref/dinas, dinas â miliynau o drigolion Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Moscfa Edit this on Wikidata
Poblogaeth12,655,050 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Unknown (cyn 1147) Edit this on Wikidata
AnthemMoya Moskva Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethSergey Sobyanin Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmser Moscfa, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantSiôr Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDosbarth Ffederal Canol Edit this on Wikidata
SirRwsia Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd2,562 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr156 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Moscfa, Afon Yauza, Vodootvodny Canal, Skhodnya Derivation Canal, Camlas Moscfa Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaOblast Moscfa, Oblast Kaluga Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.7558°N 37.6178°E Edit this on Wikidata
Cod post101001–135999 Edit this on Wikidata
RU-MOW Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolMaer Moscfa, Llywodraeth Moscfa Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholDuma Diinas Moscfa Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethSergey Sobyanin Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganYuri Dolgorukiy Edit this on Wikidata
Eglwys Gadeiriol Sant Basil, Moscfa

Lleolir y dref yn yr ardal ranbarthol a enwir Canol Rwsia sydd mewn gwirionedd yng ngorllewin Rwsia (y 'Rwsia Ewropeaidd'). Roedd hi'n brif ddinas yr Undeb Sofietaidd a hefyd o Muscvy y Rwsia cyn-ymerodraethol. Mae'r Kremlin sedd llywodraeth genedlaethol Rwsia a'r Sgwâr Coch wedi'u lleoli yn y ddinas.

Wedi'i sefydlu'n wreiddiol ym 1147, tyfodd Moscow i ddod yn ddinas lewyrchus a phwerus a wasanaethodd fel prifddinas y Ddugiaeth Fawr (y Grand Duchy yn Saesneg, neu'r Muscovite Rus' yn Rwsieg) sy'n dwyn ei henw. Pan esblygodd Dugiaeth Fawr Moscow i Tsariaeth Rwsia[5], roedd Moscow yn dal i fod yn ganolfan wleidyddol ac economaidd ar gyfer y rhan fwyaf o'i chyfnod fel Tsariaeth. Pan ddiwygiwyd y Tsariaeth yn Ymerodraeth Rwsia rhwng 1721 a 1917, symudwyd y brifddinas o Moscfa i St Petersburg, gan leihau dylanwad y ddinas. Yna symudwyd y brifddinas yn ôl i Moscfa yn dilyn Chwyldro Rwsia yn 1917 a daethpwyd â'r ddinas yn ôl fel canolfan wleidyddol yr SFSR (sef y Rossiyskaya Sovetskaya Federativnaya Sotsialisticheskaya Respublika) a'r Undeb Sofietaidd. Yn dilyn diddymiad yr Undeb Sofietaidd yn 1991, arhosodd Moscfa fel prif ddinas Ffederasiwn Rwsia.

Mae gan Moscfa un o economïau trefol mwya'r byd, ac mae'n un o'r dinasoedd drutaf yn y byd i fyw ynddi. Mae'r ddinas yn un o'r cyrchfannau twristaidd sy'n tyfu gyflymaf yn y byd, ac mae'n un o'r dinasoedd yr ymwelir â hi fwyaf yn Ewrop. Moscfa yw'r drydedd dinas sydd a'r mwyaf o biliwnyddion yn y byd, ac mae ganddi mwy o biliwnyddion nag unrhyw ddinas yn Ewrop.[6][7] Mae Canolfan Fusnes Ryngwladol Moscow yn un o'r canolfannau ariannol mwyaf yn y byd, ac mae'n cynnwys rhai o skyscrapers talaf Ewrop. Dyma hefyd ddinas orau'r byd am ei gwasanaethau digidol,[8] cyhoeddus a'r gwasanaethau e-lywodraeth orau'n y byd.[9] Moscow oedd dinas letyol Gemau Olympaidd yr Haf 1980, ac roedd hefyd yn un o'r dinasoedd a gynhaliodd gemau Cwpan y Byd Pêl-droed 2018.[10]

Mae'r ddinas yn gartref i sawl Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ac mae'n adnabyddus am ei phensaernïaeth nodedig, yn enwedig ei Sgwâr Coch hanesyddol, ac adeiladau fel Eglwys Gadeiriol Sant Basil ac adeilad Kremlin Moscfa sef sedd Llywodraeth Rwsia. Mae Moscow yn gartref i lawer o gwmnïau Rwsiaidd mewn nifer o ddiwydiannau, sy'n cael ei wasanaethu gan rwydwaith cynhwysfawr o drafnidiaeth a phedwar maes awyr rhyngwladol, naw terfynfa reilffordd, system tramiau, system monorail, ac yn fwyaf arbennig Metro Moscow, y system metro brysuraf yn Ewrop, ac un o'r systemau cludo cyflym mwyaf yn y byd. Mae gan y ddinas dros 40 y cant o'i thiriogaeth wedi'i gorchuddio â gwyrddni, sy'n golygu ei bod yn un o'r dinasoedd gwyrddaf yn Ewrop a'r byd.[4][11]

GeirdarddiadGolygu

Mae ffurf wreiddiol Rwsiaidd o'r enw wedi'i hailadeiladu fel * Москы, * Mosky, ac felly roedd yn un o ychydig o enwau ū-coes Slafaidd. Y cyfeiriadau ysgrifenedig cyntaf, yn y 12g, oedd Московь, Moskovĭ, Москви, Moskvi, Москвe / Москвѣ, Moskve / Moskvě. O'r ffurfiau olaf hyn y daeth yr enw Rwsieg, modern Москва, Moskva, sy'n ganlyniad i gyffredinoli morffolegol gyda'r enwau coesyn Slafaidd niferus.

Yr esboniad â sail gadarn gan ieithegwyr, fodd bynnag, ac a dderbynnir yn eang, yw bod y gair yn deillio o'r gwreiddyn Proto-Balto-Slafaidd * mŭzg- / muzg- o'r Proto-Indo-Ewropeaidd * meu- "gwlyb", felly gallai'r enw Moskva ddynodi afon mewn gwlyptir neu gors.[12][13][14][15][12][13]

Cred eraill bod enw'r ddinas yn deillio o enw Afon Moskva.[15][12] Cynigiwyd sawl damcaniaeth am darddiad enw'r afon. Roedd pobl Finno-Ugric Merya a Muroma, a oedd ymhlith y nifer o lwythau cyn-Slafaidd a oedd yn byw yn yr ardal yn wreiddiol, yn defnyddio'r enw Mustajoki (sef yr "afon ddu"). Awgrymwyd bod enw'r ddinas yn deillio o'r enw yma.[16][17]

Ceir eglurhad o darddiad Celtaidd yr enw hefyd, ond nid yw wedi ennill ei blwyf.[15][12]

HanesGolygu

CynhanesGolygu

Mae cloddfeydd archeolegol yn dangos bod pobl wedi byw ar y safle lle saif Moscfa heddiw ers amser. Ymhlith y darganfyddiadau cynharaf mae creiriau o ddiwylliant Lyalovo, y mae arbenigwyr yn eu neilltuo i'r cyfnod Oes Newydd y Cerrig (y Neolithig).[18] Mae'r dystiolaeth yn cadarnhau mai helwyr a chasglwyr oedd trigolion cyntaf yr ardal. Tua 950 OC, ymgartrefodd dau lwyth Slafaidd: y Vyatichi a'r Krivichi, yma. O linach y Vyatichi a daw llawer o boblogaeth frodorol Moscfa.[19]

Yr Oesoedd CanolGolygu

Cyfeirir at y dref mewn dogfennau am y tro cyntaf ym 1147. Ar y pryd roedd hi'n dref fechan, ond ym 1156 adeiladwyd mur pren a ffos o gwmpas y dref gan y tywysog Yury Dolgoruky. Er hynny, llosgwyd y dref a lladdwyd ei phobl ym 1177. Rhwng 1237 a 1238 meddiannodd y Mongoliaid y dref a'i llosgi a llofruddio'i thrigolion unwaith eto. Ar ôl y cyfnod hwnnw, cryfhaodd y dref eto a daeth yn brifddinas tywysogaeth annibynnol.

Ym 1300 roedd y Tywysog Daniel, mab Alexander Nevsky yn rheoli'r dref mewn enw, ond roedd y dref o dan reolaeth y Mongoliaid mewn gwirionedd. Fodd bynnag, roedd nerth Ymerodraeth Lithiwania yn cynyddu ac - er mwyn gwrthbwyso hynny - rhoddodd Khan y Mongoliaid rym arbennig i Foscfa. Fel hynny, cyfododd Moscfa i fod yn un o'r drefi fwyaf nerthol yn Rwsia.

O 1480 ymlaen, dan reolaeth Ifan III, roedd Rwsia yn wlad annibynnol ac yn tyfu i fod yn ymerodraeth fawr a oedd yn cynnwys Rwsia, Siberia a nifer o ardaloedd eraill. Er bod nifer o tsariaid, er enghraifft Ifan yr Ofnadwy, yn ormeswyr, parheai'r ymerodraeth i dyfu.

Tsariaeth (1547–1721)Golygu

Ym 1571, cipiodd Tartariaid Crimea, dan Ymerodraeth yr Otomaniaid, y dref a'i llosgi. Rhwng 1605 a 1612 meddianai lluoedd Gwlad Pwyl y dref. Bwriad y Pwyliaid oedd sefydlu llywodraeth newydd yn Rwsia gyda chysyltiad cryf â Gwlad Pwyl. Fodd bynnag, gwrthryfelodd mawrion Rwsia yn erbyn Gwlad Pwyl yn 1612, ac yn 1613 daeth Michael Romanov yn tsar ar ôl etholiad. Fel hynny dechreuodd hanes y deyrnlin Romanov.

Roedd Moscfa yn brifddinas Rwsia cyn sefydlu St Petersburg ar lan y Môr Baltig gan Pedr Fawr yn 1700.

Yr Ymerodraeth (1721–1917)Golygu

Ym 1812 ceisiodd Napoleon oresgyn Rwsia a llosgodd trigolion Moscfa eu dinas eu hynain ar 14 Medi 1812 a ffoi ohoni. Ond bu rhaid i luoedd Napoleon adael y ddinas oherwydd y tywydd eithafol o oer a phrinder bywyd.

Ers Chwyldro Rwsia ym 1917 Moscfa yw prifddinas Rwsia. Symudodd llywodraeth Lenin i'r ddinas ar 5 Mawrth, 1918.

Y Cyfnod Sofietaidd (1917–1991)Golygu

Ym mis Mehefin 1941, ymosododd lluoedd yr Almaen ar Rwsia (Ymgyrch Barbarossa) ac anelodd un o'r dair adran y fyddin am Foscfa. Ar ôl Brwydr Moscow, gorfodwyd yr Almaenwyr, a oedd yn dioddef o losg eira yr eira trwm, i droi yn eu holau. O'r herwydd, "Dinas yr Arwyr" yw llysenw Moscfa ers yr Ail Rhyfel Byd.

1991–presennolGolygu

AdeiladauGolygu

 
Moscfa.
  1. https://rosstat.gov.ru/storage/mediabank/wJkrbrPg/Popul2021_Site.xls.
  2. http://www.demographia.com/db-worldua.pdf.
  3. Alexander Akishin (17 Awst 2017). "A 3-Hour Commute: A Close Look At Moscow The Megapolis". Strelka Mag. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-17. Cyrchwyd 23 Mai 2020.
  4. 4.0 4.1 "Moscow, a City Undergoing Transformation". Planète Énergies. 11 Medi 2017. Cyrchwyd 27 Mai 2020.
  5. [https://geiriaduracademi.org Geiriadur yr Academi; adalwyd 24 Mawrth 2021
  6. Gweler: MasterCard Global Destination Cities Index.
  7. Giacomo Tognini. "World's Richest Cities: The Top 10 Cities Billionaires Call Home". Forbes. Cyrchwyd 25 Mai 2020.
  8. Arseny Kalashnikoff (July 5, 2018). "Moscow tops European ranking in digital innovation". Russia Beyond. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2020.
  9. "United Nations E-Government Survey 2018" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 5 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2020.
  10. "FIFA World Cup kicks off in Russia". The New Indian Express. Cyrchwyd 2021-03-20.
  11. "Moscow parks". Bridge To Moscow. Cyrchwyd 27 Mai 2020.
  12. 12.0 12.1 12.2 12.3 Smolitskaya, G.P. (2002). Toponimicheskyi slovar' Tsentral'noy Rossii Топонимический словарь Центральной России (yn Rwseg). tt. 211–2017.
  13. 13.0 13.1 Trubachyov, O.N., gol. (1994). Etimologicheskyi slovar' slavyanskikh yazykov Этимологический словарь славянских языков (yn Rwseg). V. 20: pp. 19–20, 197, 202–203; V. 21: pp. 12, 19–20, 76–79.
  14. Pokorny, Julius. "meu". Indogermanisches etymologisches Wörterbuch. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mawrth, 2016. Check date values in: |archive-date= (help)
  15. 15.0 15.1 15.2 Nodyn:Vasmer
  16. Tarkiainen, Kari (2010). Ruotsin itämaa. Helsinki: Svenska litteratursällskapet i Finland. t. 19. ISBN 978-951-583-212-2.
  17. "Early East Slavic Tribes in Russia". Study.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2018.
  18. "The origins of Moscow: What archaeological finds, chronicles and urban legends tell us". Mos.ru. 5 Ebrill 2017. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2020.
  19. "History of Moscow - from village to metropolis". moskau.ru. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2020.