Henri Martin (gwleidydd, 1927-2015)
Roedd Henri Martin (23 Ionawr 1927 - 17 Chwefror 2015), enw llawn Henri Ursin Clément Martin[1], yn ymgyrchydd gyda Phlaid Gomiwnyddol Ffrainc. Roedd yn enwog oherwydd helynt Henri Martin adeg Rhyfel Indo-Tsieina.[2]
Henri Martin | |
---|---|
Ganwyd | Henri Ursin Clément Martin 23 Ionawr 1927 Lunery |
Bu farw | 17 Chwefror 2015 Pantin |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol Ffrengig |
Bywgraffiad
golyguYn ystod 1943, dechreuodd weithredu gyda'r Résistance trwy fynd, gyda'r nos, i adael taflenni gyda thrigolion Rosières. Yna, fis Mehefin 1944, daeth yn swyddog cyswllt maquis y Franc-tireurs et partisans yn Lignières (Cher)[1][3].
Ar 14 Awst, gadawodd ei brentisiaeth i ymuno â'r maquis lle cymrodd rhan mewn gweithredoedd er mwyn rhyddhau dinas Bourges. Cadarnhaodd ei ymrwymiad milwriaethus trwy ymuno â'r Blaid Gomiwnyddol ar 6 medi. O fis Tachwedd ymlaen, ymunodd â demi-frigad 34, a dan orchymyn y Cyrnol de Vogüé cymerodd ran mewn gwarchod ardal poced Royan. Fe wnaeth Henri Martin adennill statws sifil ar 18 Chwefror 1945 [4].
Milwr ac ymgyrchydd comiwnyddol
golyguYn ystod diwedd ymgyrch Rhyddhad Ffrainc, fis Rhagfyr 1944, penderfynodd ymrestru yn y Llynges. Ond ni chafodd ymateb, a bu wrthi'n chwilio am waith. Ar 25 Mai 1945 derbyniodd wŷs yn gofyn iddo fynd i Baris. Arwyddodd gontract pum mlynedd yno ar 1 Mehefin. Fe'i anfonwyd yn gyntaf i ganolfan filwrol Hourtin ac yna i Mimizan i ddilyn cwrs hyfforddi fel mecanic, a llwyddodd i ennill y 7fed safle o blith 74. Gan wirfoddoli i gymryd rhan yn yr ymgyrch yn erbyn Japan, anfonwyd ef i borthladd milwrol Toulon i gychwyn ar long o'r enw Chevreuil oedd yn hwylio am Saigon. Cyn cyrraedd pen ei daith, aeth trwy Singapore lle nododd: « mae'r cadlywydd yn cwrdd â ni ar y dec cefn ac yn dweud wrthym y bydd yn rhaid i ni ymladd yn Indo-Tsieina yn erbyn dihangwyr o fyddin Japan ac ysbeilwyr sy'n brawychu'r boblogaeth » [3]. Cyrhaeddodd y llong Saigon fis Rhagfyr 1945 [1].
Roedd am barhau â'r frwydr wrth-ffasgaidd yn Indochina ac ymladd yno yn erbyn y goresgynwyr o Japan[5]. Felly anfonwyd ef i Indo-Tseina fel ail fecanydd meistr [6]. Fodd bynnag, pan gyrhaeddodd yno, nid oedd byddin Ffrainc bellach yn ymladd yn erbyn Japan, a oedd wedi ildio, ond yn erbyn herwfilwyr Việt Minh. Fe wnaeth Henri Martin wrthod ymladd yn eu herbyn, a gofyn yn ofer am gael terfynu ei gontract. Roedd ar fwrdd y Chevreuil pan fuodd hi'n bomio dinas Haiphong gyda dwy long arall.
Ar ddiwedd 1947, dychwelodd i Ffrainc lle cafodd ei anfon i arsenal Toulon. Sefydlodd Henri Martin grŵp o filwyr oedd yn rhannu ei argyhoeddiadau ac o fis Gorffennaf 1949 bu'n arwain brwydr ddirgel yn erbyn y rhyfel yn Indo-Tsieina, trwy beintio sloganau a dosbarthu taflenni [5].
Helynt Henri Martin (1950-1953)
golyguAr 14 Mawrth 1950, cafodd Henri Martin a'i grŵp eu harestio gan yr heddlu. Cafodd Henri Martin, oedd yn 23 oed, ei ddedfrydu i 5 mlynedd o garchar a diraddio milwrol. Cafodd ei garcharu, ond derbyniodd gefnogaeth André Marty, wnaeth arwain ymgyrch genedlaethol yn mynnu ei ryddhau ar unwaith. Byddai Henri Martin yn cael ei ryddhau o'r diwedd ym 1953.
Wedi'r Helynt
golyguWedi iddo gael ei ryddhau, dilynodd Henri Martin yrfa parhaol fel aelod o'r Blaid Gomiwnyddol. Yn fuan iawn dyrchafwyd ef i reoli Undeb Gweriniaethwyr Ieuenctid Ffrainc. Ym 1957, gwahoddwyd ef i Ŵyl Ieuenctid a Myfyrwyr y Byd ym Moscow, a gosododd dorch Undeb y Myfyrwyr Comiwnyddol a'r PCF ym Mausoleum Lenin, gydag André Senik.
Daeth wedyn yn eilydd, ac yna'n aelod llawn, ar bwyllgor canolog y Blaid Gomiwnyddol yn y Gynghres fis Mai 1964. Bu wedyn yn gyfarwyddwr ar École centrale y blaid ac yn aelod o ysgrifenyddiaeth Jacques Duclos adeg etholiad arlywyddol 1969. Ym 1982 yr oedd yn dal yn aelod o'r pwyllgor canolog[7].
Er hyn, fel llawer o ymgyrchwyr comiwnyddol, diflannodd o ymwybyddiaeth y cyhoedd wedi i'r helynt dawelu.[2]
Portreadau o Henri Martin
golyguYn y 1950au cynnar, fel rhan o helynt Henri Martin, peintiodd nifer o artistiaid ei bortread: André Fougeron[4], Fernand Leger[8], Jean Lurcat[4] a Pablo Picasso.
Teyrngedau
golyguFis Tachwedd 2019, ailenwyd yr hen rue Neuve-Berthier, yn Pantin, yn rue Henri Martin[9][10].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Willard 2018, fiche du Maitron.
- ↑ 2.0 2.1 Mathieu, Anne (2022-08-01). "En 1950, l'affaire Henri Martin". Le Monde diplomatique (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2022-09-01.
- ↑ 3.0 3.1 1953, présentation.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Willard 2018.
- ↑ 5.0 5.1 Ruscio 2015, article en ligne.
- ↑ Robrieux 1984.
- ↑ Robrieux 1984, t. 414-415.
- ↑ "11. Natures mortes, paysages et portraits 1948-1953 : 11 - 746 Portrait d'Henri Martin". legerdessinsetgouaches.com. 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-07. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2019..
- ↑ "Inauguration de la rue Henri Martin à Pantin". L'Humanité (yn Ffrangeg). 2019-10-31. Cyrchwyd 2019-11-07..
- ↑ Raymond Mourlon (25 Hydref 2019). "Henri Martin, dans la lutte pour la paix en Indochine". Le chiffon rouge - PCF Morlaix/Montroulez (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2020-01-11..