Indo-Tsieina Ffrengig
Rhan o Ymerodraeth Ffrainc yn Ne Ddwyrain Asia oedd Indo-Tsieina Ffrengig (Ffrangeg: Indochine française; Khmer: សហភាពឥណ្ឌូចិន, Fietnameg: Đông Dương thuộc Pháp). Ffurfiwyd ffederasiwn o dri rhanbarth yn Fietnam, sef Tonkin (Gogledd), Annam (Canolbarth), a Cochinchina (De), yn ogystal â Chambodia, ym 1887.
Enghraifft o'r canlynol | talaith ffederal, gwlad ar un adeg, trefedigaeth |
---|---|
Daeth i ben | 1954 |
Poblogaeth | 21,599,582 |
Rhan o | French colonial empire |
Dechrau/Sefydlu | 1887 |
Rhagflaenydd | Kingdom of Kampuchea, French Annam, French Protectorate of Cambodia, French Tonkin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ychwanegwyd Laos ym 1893 a Kouang-Tchéou-Wan ym 1900. Symudodd y brifddinas o Saigon (yn Cochinchina) i Hanoi (Tonkin) ym 1902. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gweinyddwyd y drefedigaeth gan Lywodraeth Vichy o dan feddiannaeth Japan. Ym mis Mai 1941, cychwynnodd gwrthryfel yn erbyn rheolaeth Ffrainc gan y Fiet Minh, byddin gomiwnyddol dan arweiniad Ho Chi Minh, yn ystod Rhyfel Cyntaf Indo-Tsieina.
Yn Saigon, enillodd Gwladwriaeth Fietnam, gwlad wrth-gomiwnyddol dan arweiniad y cyn-Ymerawdwr Bảo Đại, annibyniaeth ym 1949. Yn dilyn Cytundeb Genefa ym 1954 daeth y Fiet Minh yn llywodraeth Gogledd Fietnam, er parhaodd llywodraeth Bảo Đại i reoli yn Ne Fietnam.