Henry de Gower
Clerigwr Normanaidd-Cymreig oedd Henry de Gower neu Henry Gower (sef 'Harri Gŵyr) (bu farw cyn 4 Mai 1347), a ddaeth yn Esgob Tyddewi.
Henry de Gower | |
---|---|
Ganwyd | c. 1278 Swydd Efrog |
Bu farw | 1 Mai 1347 |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | esgob esgobaethol |
Etholwyd de Gower yn Esgob Tyddewi ar 21 Ebrill 1328; cafodd feddiant o'r eiddo ar 26 Mai yn yr un flwyddyn a'i gysegru'n esgob ar 12 Mehefin 1328. Gwasanaethodd fel esgob o'r dyddiad hwnnw hyd ei farwolaeth yn 1347 (cyn 4 Mai).
Yn ystod ei dymor fel Esgob Tyddewi cychwynodd Henry de Gower ar raglen o waith pensaernïol. Ehangodd Blas yr Esgob yn Llandyfái yn sylweddol. Mae'r rhan fwyaf o'r hyn a welir ar y safle heddiw yn waith de Gower. Ef hefyd a adeiladodd yr ysbyty yn Nhyddewi ac a adnewyddodd Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn sylweddol. Dyma ddechrau cyfnod o "ddadeni pensaernïol" yn hanes Esgobaeth Tyddewi.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Gwasg Prifysgol Rhydychen, argraffiad clawr papur 1991), tud. 414.