Henry Robert Vaughan Johnson

Bargyfreithiwr a gwas sifil o Loegr oedd Henry Robert Vaughan Johnson (30 Ionawr 182023 Chwefror 1899).[1][2][3] Mae'n adnabyddus fel un o'r tri chomisiynydd a oedd yn gyfrifol am yr adroddiad Inquiry into the State of Popular Education in Wales (1847) – y Llyfrau Gleision drwg-enwog.

Henry Robert Vaughan Johnson
Ganwyd 1820 Edit this on Wikidata
Bu farw 23 Chwefror 1899 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Tad John Johnson Edit this on Wikidata
Plant Robert Vaughan Johnson Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yn Burton Latimer, Swydd Northampton, yn fab i'r Parch. John Johnson, rheithor Yaxham, Norfolk. Astudiodd yn Ysgol Sherborne ac yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt (1827–32). Cafodd ei alw i'r Bar yn Lincoln's Inn, Llundain, ym 1848.

Yn 1846 fe'i penodwyd, gyda Jelinger Cookson Symons a Ralph Robert Wheeler Lingen – dau fargyfreithiwr arall o Loegr – yn gomisiynydd ymchwiliad seneddol i gyflwr addysg yng Nghymru. Ar adeg pan oedd mwyafrif y boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg roedd y tri chomisiynydd yn siaradwyr Saesneg uniaith. Roeddent yn dibynnu i raddau helaeth ar dystiolaeth unochrog gan dirfeddianwyr a chlerigwyr Anglicanaidd a ddifenwasant iaith, addysg a moesoldeb y Cymry Cymraeg. Arweiniodd adroddiad y comisiynwyr – a gyhoeddwyd mewn cloriau glas ym 1847 – at ddicter yng Nghymru, a daeth y mater yn adnabyddus fel Brad y Llyfrau Gleision.

Ym 1859 fe'i penodwyd yn Gyd-ysgrifennydd i'r Arglwydd Ganghellor, ac yn ddiweddarach daliodd amryw swyddi yn ymwneud â gweinyddu cyfiawnder.

CyfeiriadauGolygu

  1. "Henry Robert Vaughan Johnson", The Peerage; adalwyd 15 Chwefror 2020
  2. Joseph Foster, Men-at-the-Bar: A Biographical Hand-List of the Members of the Various Inns of Court (Llundain, 1885)
  3. "Johnson, Henry Robert Vaughan", Alumni Cantabrigienses, cyf. 2, rhan 3 (Caergrawnt, 2011), t. 579