Jelinger Cookson Symons
Bargyfreithiwr ac arolygydd ysgolion o Loegr oedd Jelinger Cookson Symons[1] (27 Awst 1809 – 7 Ebrill 1860).[2] Mae'n adnabyddus fel un o'r tri chomisiynydd a oedd yn gyfrifol am yr adroddiad Inquiry into the State of Popular Education in Wales (1847) – y Llyfrau Gleision drwg-enwog.
Jelinger Cookson Symons | |
---|---|
Ganwyd | 27 Awst 1809 |
Bu farw | 1860 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, golygydd, llenor, bargyfreithiwr |
Tad | Jelinger Symons |
Fe'i ganwyd yn West Ilsley, Berkshire, yn fab i'r Parch. Jelinger Symons (1778–1851), ficer Radnage, Swydd Buckingham. Astudiodd yng Ngholeg Corpus Christi, Caergrawnt (1827–32). Cafodd ei alw i'r Bar yn y Deml Ganol, Llundain, ym 1843, a daeth yn fargyfreithiwr ar Gylchdaith Rhydychen.
Yn 1837 fe'i penodwyd gan y Swyddfa Gartref yn aelod y comisiwn brenhinol ynghylch gwehyddion gwŷdd llaw. Yn 1840 fe'i penodwyd i'r Comisiwn Cyflogaeth Plant. Gwasanaethodd hefyd fel comisiynydd degwm.
Yn 1846 fe'i penodwyd, gyda Ralph Robert Wheeler Lingen a Henry Robert Vaughan Johnson – dau fargyfreithiwr arall o Loegr – yn gomisiynydd ymchwiliad seneddol i gyflwr addysg yng Nghymru. Ar adeg pan oedd mwyafrif y boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg roedd y tri chomisiynydd yn siaradwyr Saesneg uniaith. Roeddent yn dibynnu i raddau helaeth ar dystiolaeth unochrog gan dirfeddianwyr a chlerigwyr Anglicanaidd a ddifenwasant iaith, addysg a moesoldeb y Cymry Cymraeg. Roedd adroddiadau Symons yn ymdrin â Sir Frycheiniog, Sir Aberteifi, Sir Faesyfed, a Sir Fynwy. Arweiniodd adroddiad y comisiynwyr – a gyhoeddwyd mewn cloriau glas ym 1847 – at ddicter yng Nghymru, a daeth y mater yn adnabyddus fel Brad y Llyfrau Gleision.
Yn 1848 penodwyd Symons yn arolygydd ar gyfer ysgolion Deddf y Tlodion, gyda chyfrifoldeb dros Gymru a Gorllewin Lloegr. Yn ei waith mwyaf adnabyddus, Tactics for the Times: as Regards the Condition and Treatment of the Dangerous Classes (1849), lleisiodd Symons yr ofn a deimlai llawer o aelodau dosbarth llywodraethol y cyfnod bod ymddygiad troseddol ar gynnydd, oherwydd dirywiad moesol ac anhrefn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mae rhai ffynonellau yn rhoi sillafu ei enw bedydd fel "Jellynger", ond mewn dogfennau swyddogol (gan gynnwys y Llyfrau Gleision) mae'n ymddangos fel "Jelinger".
- ↑ John Shepherd (2008), "Symons, Jelinger Cookson", Oxford Dictionary of National Biography