Heol y Wig, Aberystwyth
Un o strydoedd hynaf tref Aberystwyth yw Heol y Wig (Saesneg: Pier Street). Mae'n gorwedd ar hyd llinellau y dref ganoloesol a dyfodd wrth, ac wedi codi Castell Aberystwyth gan Edward I.
Math | stryd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberystwyth |
Sir | Aberystwyth |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.41496°N 4.08659°W |
Er mai o'r Oesoedd Canol mae trefn y stryd, mae'r adeiladau o'r 18g ac yn arddull Regency gyda ffenestri mawr hirsgwâr a thalcen llyfr a thri neu bedwar llawr o uchder. Mae'r stryd yn cynnwys nifer o siopau, caffes a Swyddfa etholaeth Ceredigion Plaid Cymru. Mae un pen y stryd, y pen de-ddwyreiniol yn ffurfio cyffordd gyda'r Stryd Fawr a'r diwedd gyda Ffordd y Môr, sef Promenâd y dref.
Etymoleg golygu
Noda Carwen Vaughan fod yr enw 'Wig' yn dod o'r Saesneg 'wick' (sy'n gytras gyda'r Islandeg vik) sy'n golygu "hafan bach yn dod fewn o'r môr" ac nid 'wig' i olygu 'coedwig' fel y cred nifer o bobl.[1]
Mae'r 'wig' hefyd yn cyfeirio at y creigiau yn y bae islaw y stryd.
Map cynnar golygu
Nodir 'wig' yn map enwog Lewis Morris un o Forrisiaid Môn.[2] fel 'The Weeg' ar dalen 17 ar y wefan.
Nodweddion y stryd golygu
Ceir amrywiaeth o siopau a caffes ar Heol y Wig. Ymysg y caffes a llefydd bwyta mae tri caffe adnabyddus.
- Home Cafe - lle cynhaliwyd cyfarfod cyn protest Pont Trefechan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1963.
- Penguin Cafe - sefydlwyd gan Eidalwyr rhwng y ddau ryfel byd.
- Caffe'r Caban
Cyfeiriadau golygu
- ↑ http://merchedywawr.cymru/wp-content/uploads/2016/09/enwau-aberystwyth.pdf[dolen marw]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-28. Cyrchwyd 2018-04-29.