Herod
Gall Herod gyfeirio at un o nifer o aelodau o'r frenhinllin Herodaidd yn nhalaith Rufeinig Iudaea:
- Herod Fawr (c. 74-4 CC), brenin Judea, a ail-adeiladodd yr Ail Deml yn Jerusalem a'r Herod sy'n cael ei ddisgrifio yn yr hanes yn y Beibl am eni Iesu Grist.
- Herod Archelaus (23 CC-c. 18 OC), ethnarch Samaria, Judea ac Idumea
- Herod Antipas (20 CC-c. 40 OC), tetrarch Galilea a Peraea, yr "Herod" a ddisgrifir yn y Beibl yn dienyddio Ioan Fedyddiwr
- Herod Agrippa I (c. 10 CC-44 OC), brenin Judea, yr "Herod" yn Actau'r Apostolion.
- Herod Philip I, tad Salome
- Herod Philip II (4 CC-34 OC), tetrarch Ituraea a Trachonitis
- Herod III, neu Herod o Chalcis, brenin Chalcis (41-48 OC)
- Herod Agrippa II (27-100 OC), tetrarch Chalcis, a elwir yn "Agrippa" yn Actau'r Apostolion, y bu Paul o Tarsus ar ei brawf o'i flaen.