Tetrach ("rheolwr dros chwarter") Galilea a Perea oedd Herod Antipas (yn llawn "Antipatros") (cyn 20 CC - ar ôl 39 OC).

Herod Antipas
Ganwyd20 CC Edit this on Wikidata
Jwdea Edit this on Wikidata
Bu farw39 Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, teyrn Edit this on Wikidata
TadHerod Fawr Edit this on Wikidata
MamMalthace Edit this on Wikidata
PriodPhasaelis, Herodias Edit this on Wikidata
LlinachHerodian dynasty Edit this on Wikidata

Roedd Antipas yn fab i Herod Fawr, ac ar farwolaeth ei dad yn 4 CC cafodd diriogaethau Galilea a Perea pan rannwyd ei deyrnas. Roedd yn eu llywodraethu dan nawdd yr Ymerodraeth Rufeinig. Adeiladodd brifddinas newydd, Tiberias, wedi ei henwi ar ôl ei noddwr, yr ymerawdwr Tiberius, ar lan Môr Galilea.

Darn arian a fathwyd gan Herod Antipas

Ysgarodd Antipas ei wraig gyntaf, merch Aretas IV, brenin Nabatea, er mwyn priodi Herodias, oedd wedi bod yn briod a'i frawd, Philip. Condemniwyd hyn gan Ioan Fedyddiwr. Yn ôl yr hanesydd Josephus, dienyddiwyd Ioan gan Herod i osgoi gwrthryfel. Yn ôl Efengyl Mathew, dawnsiodd merch Herodias, Salome, i Herod, a'i blesio gymaint nes iddo addo iddi unrhyw beth a ddymunai. Ei dymuniad oedd cael pen Ioan.

Yn ôl Efengyl Luc yn y Testament Newydd, pan roddwyd Iesu ar ei brawf o flaen Pontius Pilat, gyrrodd Pilat ef at Antipas, fel rheolwr Galilea. Gyrrodd Antipas ef yn ôl at Pilat.

Yn 39 OC, cyhuddwyd Antipas gan ei nai Agrippa I o gynllwynio yn erbyn yr ymerawdwr newydd, Caligula. Alltudiwyd ef i Gâl, lle bu farw.