Offeiriad, meddyg, a botanegwr o Almaenwr oedd Hieronymus Tragus Bock (149821 Chwefror 1554). Arloesodd maes modern botaneg, gan ddefnyddio arsylwadau a disgrifiadau gwyddonol yn lle dulliau ieithegol yr hen ysgolwyr.

Hieronymus Bock
Darluniad o Hieronymus Bock (1546).
Ganwyd1498 Edit this on Wikidata
Heidelsheim Edit this on Wikidata
Bu farw21 Chwefror 1554 Edit this on Wikidata
Hornbach Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPrince-Bishopric of Speyer Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbotanegydd, gweinidog yr Efengyl, pryfetegwr, meddyg Edit this on Wikidata

Ni wyddys llawer am ei fywyd. Ganwyd yn Heidersbach, a bu'n gweithio yn Zweibrücken o 1523 i 1533. Symudodd i ganoniaeth Hornbach, ond bu'n rhaid iddo adael ym 1550 am iddo gefnogi Martin Luther. Gweithiodd am gyfnod byr yn feddyg personol i Ddug Nassau, a dychwelodd i Hornbach ym 1551.

Esiampl o dudalennau New Kreuterbuch yn argraffiad Johan Rihel, Strasbwrg (1577 neu 1580)

Yn ei gampwaith New Kreuterbuch ("Llysieulyfr Newydd"; 1539), ysgrifennodd disgrifiadau manwl o ryw 700 o blanhigion, ac yn argraffiad 1546 cynhwysodd darluniadau manwl ohonynt, yn nhrefn ar sail tebygrwydd eu strwythur.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Hieronymus Bock. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Mai 2017.