High School Musical
Mae High School Musical yn ffilm deledu Americanaidd sydd wedi ennill Gwobr Emmy. Dyma oeddd y ffilm gyntaf yn y gyfres High School Musical. Pan ryddhawyd y ffilm ar yr 20fed o Ionawr, 2006 dyma oedd y ffilm mwyaf llwyddiannus i'r Disney Channel ei chreu erioed [1], gyda'r ffilm olynnol, High School Musical 2 yn cael ei rhyddhau yn 2007. Rhyddhawyd y ffilm lawn gyntaf High School Musical 3: Senior Year mewn sinemau ym mis Hydref 2008. Dyma oedd ffilm wreiddiol gyntaf Disney i gael ei rhyddhau mewn sinemau. Cyhoeddwyd y bydd High School Musical 4, ac mae hyn yn y broses o gael ei ysgrifennu[2]. Trac sain y ffilm oedd yr albwm a werthodd fwyaf yn yr Unol Daleithiau yn 2006.[3]
Poster hyrwyddiad | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Kenny Ortega |
Cynhyrchydd | Don Schain |
Ysgrifennwr | Peter Barsocchini |
Serennu | Zac Efron Vanessa Hudgens Ashley Tisdale Lucas Grabeel Corbin Bleu Monique Coleman |
Cerddoriaeth | David Lawrence Matthew Gerrard Greg Cham Ray Cham Andy Dodd Faye Greenberg Jamie Houston Adam Watts Drew Lane Eddie Galan Andrew Seeley |
Sinematograffeg | Gordon Lonsdale |
Golygydd | Seth Flaum |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Disney Channel |
Dyddiad rhyddhau | 20 Ionawr 2006 |
Amser rhedeg | 97 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Olynydd | High School Musical 2 |
Gwefan swyddogol | |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
High School Musical oedd y ffilm Disney a wyliwyd fwyaf yn ystod 2006, gyda 7.7. miliwn o wylwyr yn gwylio'r darllediad cyntaf yn yr Unol Daleithiau.[4] Yn y Deyrnas Unedig, gwyliwyd y ffilm gan 789,000 o wylwyr, gan wneud y ffilm y rhaglen a wyliwyd fwyaf ar y Disney Channel (DU) yn 2006. Ar y 29ain o Ragfyr, 2006, High School Musical oedd y ffilm Disney Channel gyntaf i gael ei darlledu ar y BBC.
Gyda phlot sydd wedi cael ei gymharu gan yr awdur a nifer o feiriniaid fel addasiad gyfoes o Romeo a Juliet,[5] mae High School Musical yn adrodd hanes dau ddisgybl ysgol uwchradd o grŵpiau gwahanol - Troy Bolton (Zac Efron), capten y tîm pêl fasged, a Gabriella Montez (Vanessa Hudgens), myfyrwraig brydferth ond swil sy'n rhagori mewn mathemateg a gwyddoniaeth.[6] Mae'r ddau yn ceisio am y prif rannau yn sioe gerdd eu hysgol, ac o ganlyniad, rhannir eu hysgol yn ddau. Er gwaethaf ymdrechion myfyrwyr eraill i ddifetha'u breuddwydion cerddorol, llwydda Troy a Gabriella i wrthsefyll y pwysau wrth gyfoedion, gan ysbrydoli pobl eraill i beidio a "stick to the status quo" yn y broses.
Ffilmiwyd High School Musical yn East High School yn Salt Lake City, Utah, yn awditoriwm Murray High School, ac yng Nghanol Dinas Salt Lake City. Defnyddiwyd Murray High School fel set ar gyfer nifer o gynhyrchiadau eraill Disney: Take Down (1978), Read It and Weep (2006), Minutemen (2008) a High School Musical: Get in the Picture (2008).[7]
Cast
- Troy Bolton (Zac Efron) yw prif gymeriad gwrywaidd y ffilm. Ef yw myfyriwr mwyaf poblogaidd yn East High School, ac mae'n gapten ar y tîm pêl fasged. Ar gyfer y ffilm hon, plethwyd canu Efron gyda llais y canwr Andrew Seeley.
- Gabriella Montez (Vanessa Hudgens) yw prif gymeriad benywaidd y ffilm.
- Sharpay Evans (Ashley Tisdale) yw merch ddrwg y ffilm.
- Ryan Evans (Lucas Grabeel) yw efaill Sharpay.
- Chad Danforth (Corbin Bleu) yw ffrind gorau Troy, ac mae'n ffrindiau da iawn gyda Jason a Zeke.
- Taylor McKessie (Monique Coleman) yw ffrind gorau Gabriella. Mae hi hefyd yn ffrindiau gyda Kelsi Nielsen a Martha Cox. MAe'n gapten ar dîm decathlon yr ysgol hefyd.
- Jack Bolton (Bart Johnson) yw tad Troy.
- Ms. Darbus (Alyson Reed) yw'r athrawes ddrama llym yn East High.
- Kelsi Nielsen (Olesya Rulin) sy'n fyfyrwraig yn East High. Gall ganu'r piano ac mae'n cyfansoddi.
- Zeke Baylor (Chris Warren Jr.) sy'n ffrindiau gyda Troy a Chad, a chwaraea i'r tîm pêl fasged. Mae ef hefyd yn mwynhau pobi.
Y Caneuon
Rhyddhawyd y trac sain ar y 10fed o Ionawr, 2006 ac aeth i rif 133 ar Siart y Billboard 200, gan werthu 7,469 o gopïau yn yr wythnos gyntaf. Yn nhrydedd wythnos yr albwm, dringodd i rif deg ac yna i rif un (ar y 1af a'r 22ain o Fawrth). Gwerthwyd 3.8 miliwn o gopïau erbyn mis Awst 2006.
Cân | Cenir yn bennaf gan | Cantorion Eraill | Golygfa |
---|---|---|---|
Start Of Something New | Troy and Gabriella | Dim | Canolfan Wyliau Sgïo |
Get'cha Head in the Game | Troy | Chwaraewyr pêl fasged | Campfa East High |
What I've Been Looking For | Ryan and Sharpay | Dim | Awditoriwm East High |
What I've Been Looking For (Reprise) | Troy and Gabriella | Dim | Awditoriwm East High |
Stick To The Status Quo | Zeke, Martha, Skater Dude, Sharpay, Ryan | Jocks, Brainiacs, Skater Dudes, Wildcats | Caffi East High |
When There Was Me And You | Gabriella | Dim | Labordy a Coridorau East High |
Bop To The Top | Ryan and Sharpay | Dim | Awditoriwm East High |
Breaking Free | Troy and Gabriella | Dim | Awditoriwm East High |
We're All In This Together | Troy, Gabriella, Ryan, Sharpay | Wildcats | Campfa East High |
Gwobrau
Blwyddyn | Gwobr | Categori | Canlyniad |
---|---|---|---|
2006 | |||
Gwobr Cerddorol Billboard | Albwm Trac Sain y Flwyddyn | Enillwyd | |
Gwobr Emmy | Coreograffeg Eithriadol | ||
Gwobrau Teen Choice | Teledu - Seren Breakout Choice (Zac Efron) | ||
Teledu - Perthynas Ar-sgrîn Orau Choice (Vanessa Hudgens & Zac Efron) | |||
Gwobr Cymdeithas Beirniaid Teledu | Cyflawniad Eithriadol yn Rhaglenni Plant | ||
Gwobrau Cerddorol Americanaidd | Albwm Pop Gorau | Enwebwyd | |
Gwobr Cerddorol Billboard | Albwm y Flwyddyn | ||
Gwobr Emmy | Castio Eithriadol am Gyfres Fer, Ffilm neu Raglen Arbennig | ||
Cyfarwyddo Eithriadol am Gyfres Fer, Ffilm neu Ddrama Arbennig | |||
Cerddoriaeth a Geiriau Gwreiddiol Eithriadol ("Get'cha Head in the Game") | |||
Cerddoriaeth a Geiriau Gwreiddiol Eithriadol ("Breaking Free") |
Cyfeiriadau
- ↑ FamilyEducation.com Adalwyd 07-03-2009
- ↑ Playbill.com Adam Hetrick 09-04-2008 Adalwyd 07-03-2009
- ↑ Top 10 Best Selling Albums of 2006 - about.com
- ↑ Gwefan USAtoday.com Adalwyd 07-03-2009
- ↑ High School Musical on Tour Adalwyd 07-03-2009
- ↑ [1] Adalwyd 07-03-2009
- ↑ Disney moment for Murray, Highland Toomer-Cook, Jennifer. 03-09-2007 Adalwyd 07-03-2009
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan Swyddogol
- [2] Gwefan Swyddogol y DVD Disney High School Musical
- [3] Gwefan Swyddogol y Disney Channel yn y DU
- [4] Gwefan Swyddogol y Disney Channel yn Asia]
- [5] Gwefan Swyddogol y Disney Channel yn yr India]
- High School Musical: The Concert - Gwefan y Daith Swyddogol
- Gwefan y BBC
- High School Musical o TV.com