Hilma Lloyd Edwards
llenor o Gymru
Awdures Gymraeg yw Hilma R. Lloyd Edwards (ganed 1959). Daw o'r Bontnewydd, Gwynedd. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Bontnewydd, Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Abertawe, lle derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn Hen Hanes ac MA mewn Eifftoleg.
Hilma Lloyd Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 1959 Bontnewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Mae hi wedi cyhoeddi deuddeg llyfr i blant. Yn 2008, enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008 am ei cherdd ar y thema "Tir Newydd". Hi oedd yr ail ferch yn unig i ennill y Gadair erioed.
Gweithiau
golygu- Y Llwybr Disglair (Gomer, 1982)
- Dyddiadur Nant y Wrach (Cyhoeddiadau Mei, 1988)
- Gwarchod yr Ynys (Gomer, 1989); cyfieithiad Saesneg: Warrior Priests (Gomer, 1992)
- Gwyliau Cochyn Bach (Y Lolfa, 1990)
- Mab yr Haul (Gomer, 1990)
- Myrddin yr Ail (Y Lolfa, 1991)
- Gwibdaith Gron gyda Siôn Morris (Y Lolfa, 1993)
- Gwibdaith Gron (Y Lolfa, 1994)
- Y Mabin-Od-i (Y Lolfa, 1995)
- Pysgodyn Cochyn Bach (Y Lolfa, 1998)
- Cipio'r Cerddor (Gwasg Gomer, 1998)
- Awn i'r Syrcas (Curiad, 2002); cyfieithiad Saesneg: Stepping Out (Curiad, 2002)
- Cana i mi Stori (Curiad, 2002); cyfieithiad Saesneg: Sing me a Story (Curiad, 2002)
- Draenog ar Wib (Curiad, 2002); cyfieithiad Saesneg: Speedy Spike (Curiad, 2002)
- Lleisiau Lleu (Curiad, 2002); cyfieithiad Saesneg: Vinny's Voices (Curiad, 2002)
- Pip, Pop a Pepi (Curiad, 2002); cyfieithiad Saesneg: Pip, Pop and Pepi (Curiad, 2002)
- Siw a Miw (Curiad, 2002); cyfieithiad Saesneg: Soo and Moo (Curiad, 2002)
- Y Wers Ganu (Curiad, 2002); cyfieithiad Saesneg: The Singing Lesson (Curiad, 2002)
- Yn y Parc (Curiad, 2002); cyfieithiad Saesneg: In the Park (Curiad, 2002)
- Y Llo Gwyn (Gwasg Gomer, 2003)
- Lleidr yn y Tŷ (Gwasg Gomer, 2006)
- Tir Newydd a Cherddi Eraill (Gwasg y Bwthyn, 2008)