Bontnewydd, Arfon
Pentref gweddol fawr a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw'r Bontnewydd. Saif ar y briffordd A487 fymryn i'r de o Gaernarfon. Daw'r enw o'r bont dros Afon Gwyrfai a adeiladwyd yn y 18g, er bod pont arall wedi cymryd ei lle erbyn hyn.
![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.117°N 4.2681°W ![]() |
Cod SYG | W04000051 ![]() |
Cod OS | SH483601 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
![]() | |
- Erthygl am bentref yn Arfon yw hon. Gweler hefyd Bontnewydd (gwahaniaethu).
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Hywel Williams (Plaid Cymru).[1][2]
Ar un adeg yr oedd Bontnewydd yn cael ei rannu rhwng plwyfi Llanbeblig a Llanwnda, gydag Afon Gwyrfai fel ffin rhyngddynt. Y tŷ hynaf yma yw Plas Dinas, a adeiladwyd yn y 17g, sydd a gweddillion caer Dinas Dinoethwy o Oes yr Haearn o'i gwmpas.
Yn y Bontnewydd y magwyd y gwleidydd adnabyddus Dafydd Wigley.
Y Bontnewydd yw'r ffurf cywir o ysgrifennu'r enw yn gywir, treigliad o Pontnewydd. Mae yna son mai Bodellog oedd yr hen enw, ond efallai bod hwnnw'n enwar ardal rhwng Afon Gwyrfai a Dinas ym mhlwyf Llanwnda.
CymeriadauGolygu
Un gwr andabyddus o'r Bontnewydd oedd Huw Lewis 1562 o Blas y Bont. Ei hen daid oedd William Bodellog. Aeth i goleg Rhydychen Awst 10 1562, ac yno bu "ddiflannu" am tua 8 mlynedd, a'r canlyniad oedd y llyfr 'Perl Mewn Adfyd', llyfr a ysgrifennwyd yn wreiddiol gan Otto Werdmüller o Zurich, ac a gyfieitheyd i'r saesneg gan Miles Coverdale, Archesgob Caerwysg 'A Spyrytuall and moost Precious Pearle teaching all Men to Loue and Imbrace ye Crosse' Perl Mewn Adfyd oedd y cyfirithiad Cymraeg, llyfr a ail gyhoeddwyd yn 1929 gan W.J. Gruffydd.
Un o'r Bontnewydd yw Dafydd Wigley
GwleidyddolGolygu
Mae ward Y Bontnewydd o etholaeth Arfon yn cynnwys pentref Y Bontnewydd, Rhos Bach a Llanfaglan. Mae'r cyngor cymuned wedi ei rannu'n ddwy ward, Castellmai sef Y Bontnewydd a Rhos Bach, 9 sedd, a phlwyf hynafol Llanfaglan gyda 2 sedd.
Enwau LleoeddGolygu
BodellogGolygu
Yn ôl Archif Melville Richards, mae'r enw Bodellog wedi ei gofnodi fel Botelauc yn 1237-67, Bodellok yn 1306
Bodelloke yn 1550 gan y Comsiwn Henebion a Dinas Bodellog yn 1659 (AMR)
Y BontnewyddGolygu
Y cofnod cynharaf o'r Bontnewydd yw un John Leland 1536 ble mae'n dweud hyn "Bontnewith 1536"
“There cummith a water caullid Avon Guirvay thorough a bridge calluid Bontnewith” anc yna ar fap John Ogilby 1600-1676 o Trallwng i Gaernarfon gwelwn "Pont Newyed" "Gwyrvay Flu" "Newbridge"
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr