Hindwstaneg y gegin

Enw ar Hindwstaneg clapiog neu sylfaenol, gan amlaf wedi ei chymysgu â Saesneg, yw Hindwstaneg y gegin (Saesneg: kitchen Hindustani). Roedd y fath bratiaith yn gyffredin ymhlith yr Eingl-Indiaid, yn bennaf y Prydeinwyr a ymsefydlasant yn India yng nghyfnod Raj yr Ymerodraeth Brydeinig. Daw'r enw o'r ffaith roedd nifer o Brydeinwyr ond yn dysgu digon o'r iaith frodorol i allu gweiddi gorchmynion ar weision a morynion y gegin yn eu cartrefi. Defnyddiai'r amser gorchmynnol yn unig.[1] Mae'r geiriadur enwog Hobson-Jobson, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1886, yn gasgliad o'r fath geiriau cyffredin a oedd yn gyfarwydd i'r gymuned Eingl-Indiaidd.

Dysgodd Rudyard Kipling Hindwstaneg sylfaenol oddi ar weision ei deulu yn ystod ei fagwraeth yn Bombay. Gellir dweud felly taw Hindwstaneg y gegin oedd ei iaith gyntaf.[2]

Enghreifftiau golygu

  • Aste - arafwch
  • [Bahut] achcha - diolch yn fawr
  • Ek dum - ar unwaith
  • Kao hai? - oes unrhywun yna?
  • Lao - dewch

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Tony Orchard, Here's to our Far-Flung Empire: An Account of a Colonial Upbringing (Cirencester: Memoirs, 2012), t. 75.
  2. Andrew Lycett, Rudyard Kipling (Llundain: Weidenfeld & Nicolson, 1999), t. 31.