Agor y brif ddewislen
Afrikaans ()
Siaredir yn: De Affrica a Namibia.
Parth: De Affrica (rhanbarth)
Cyfanswm o siaradwyr: 6.4 miliwn fel iaith gyntaf
6.75 miliwn gan gynnwys siaradwyr ail iaith
Safle yn ôl nifer siaradwyr:
Achrestr ieithyddol: Indo-Ewropeaidd

 Germanaidd
  Orllewinol
   Isel Fraconin
     Afrikaans

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: De Affrica
Rheolir gan: Die Taalkommissie
Codau iaith
ISO 639-1 af
ISO 639-2 afr
ISO 639-3 afr
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Un o ieithoedd De Affrica yw Afrikaans. Mae'n tarddu o'r iaith Iseldireg ond yn sefyll ar wahân iddi fel Iaith Germanaidd yn y teulu o ieithoedd Indo-Ewropeaidd.

Datblygodd Afrikaans yn Ne Affrica gyda dyfodiad yr Afrikaniaid (Boeriaid) yn y 18g. Mae'n iaith swyddogol yn y wlad ers 1925. Mae'r iaith yn cynnwys dylanwadau o ieithoedd eraill megis Ffrangeg a Saesneg a hefyd iaith y caethwaesion a'r gweithwyr a ddygwyd neu ddenwyd i weithio i'r Iseldirwyr gwreiddiol e.e. Malayeg o drefedigaethau'r Iseldiroedd yn nwyrain Asia a hefyd y brodorion Khoi a San. Mae'r iaith felly, o'r cychwyn, wedi bod yn iaith amlethnig.

Cynnwys

Demograffeg Siaradwyr AfrikaansGolygu

 
Plant 'Kaapse Kleurling', o'r Wes Kaap, dydy mwyafrif siaradwyr Afrikaans iaith gyntaf ddim yn bobl croenwyn

Rhenir ei siaradwyr mamiaith yn weddol gyfartal rhwng bobl gwyn a phobl o dras cymyst, y Kaapse Kleurling ('Cape Coloured'). Ceir hefyd lleiafrif fechan o bobl ddu sydd yn siarad Afrikaans fel mamiaith.

Yn ôl Cyfrifiad 2011 De Africa mae 7 miliwn o bobl yn siarad Afrikaans fel iaith gyntaf (13% o'r boblogaeth). Mae'n iaith gyntaf 70% (3.5 miliwn person) o'r gymuned Kaapse Kleurling a 60% (2.7 miliwn) o'r gymuned gwyn. Ceir oddeutu 600,000 o bobl Ddu sy'n siarad Afrikaans fel iaith gyntaf hefyd.

Mae 11% o boblogaeth Namibia hefyd yn siarad Afrikaans ac yn lingua franca mewn sawl sefyllfa. Mae'r rhan fwyaf o'r siaradwyr yn ardal y brifddinas, Windhoek a'r ardaloedd sy'n ffinio a thalaidd Gogledd y Penrhyn yn Ne Affrica.

Amcangyfrifir fod rhwng 15 - 23 miliwn o bobl yn gallu siarad Afrikaans fel iaith gyntaf neu ail neu drydydd iaith.

Mae Afrikaans yn nodweddiadol am fod yn un o'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd mwyaf analytig. Hi yw'r unig iaith Germanaidd sydd wedi datblygu'n sylweddol ar gyfandir Affrica.

Statws a Brwydr yr IaithGolygu

Tybir i Afrikaans ddatblygu 50 mlynedd cyn dyfodiad Jan van Riebeeck wrth i forwyr Iseldireg fasnachu gyda'r Khoi brodorol. Yn ystod y dau can blynedd nesa fe aeth yr Iseldireg lafar drwy lawer o newid, ond cadwa'r bobl i ysgrifennu a darllen mewn Iseldireg safonol. Adnabwyd yr Iseldireg a siaradwyd yn Ne Affrica fel Kaaps Hollands ac, yn fwy dirmygus, kombuistaal ('iaith y gegin' - nid yn anhebyg i ymadrodd 'iaith a gegin gefn' a ddefnyddiwyd i gyfeirio at y Gymraeg ar un adeg).

Erbyn diwedd y 19g roedd cyfnabyddiaeth gan rai fod yr iaith a siaradwyd yn Ne Affrica wedi esblygu i fod yn iaith wahanol i'r Iseldireg 'safonnol'. O ganlyniad, ffurfiwyd y Genootskap van Regte Afrikaners (Afrikaans ar gyfer "Cymdeithas y Gwir Affricaniaid") ar 14 Awst 1875 yn nhref Paarl gan grŵp o siaradwyr Afrikaans o ranbarth presennol Wes Kaaps (Western Cape). Ar 15 Ionawr 1876 cyhoeddodd y gymdeithas gyfnodolyn yn Afrikaans o'r enw Die Afrikaanse Patriot ("Y Gwladgarwr Afrikaans"). Bwriad y gymdeithas oedd roi statws a defnydd i'r iaith a siaradwyd yn Ne Affrica.

Yn 1925 daeth yn iaith swyddogol y wlad, ynghyd â'r Saesneg (ond nid un o'r ieithoedd frodorol ddu) a chyhoeddwyd cyfieithwyd o'r Beibl i'r Afrikaans yn 1933.

Y Taalmonument - Cofeb i'r Iaith AfrikaansGolygu

 
Obelisg y gofeb iaith, Taalmonument, Paarl

Un o hynodrwydd ei siaradwyr yw iddynt adeiladu'r Taalmonument, Cofeb yr Iaith Afrikaans, yn nhref Paarl yn nhalaith y Penrhyn Orllewinnol. Agorwyd y gofeb yn 1965 i nodi hannercan mlwyddiant gwneud yr iaith yn iaith swyddogol. Mae'r Gofeb yn cynnwys parc ac amgueddfa.

LlenorionGolygu

Ymlith llenorion yr iaith mae Adam Small a Meville Alexander.

Dosbarthiad Tafodieithoedd AfrikaansGolygu

  • Iseldireg
    • Afrikaans
      • Kaapse Afrikaans
      • Oorlams (tafodiaith leiaf o ran nifer, tafodiaith Afrikaans pobl frodorol y wlad, yr Oorlam, is-lwyth o'r Nama)
      • Oranjerivier-Afrikaans (Afrikaans yr Afon Oren)
      • Oosgrens-Afrikaans (Afrikaans Ffin y Dwyrain - yr Afrikaans a ddatblygodd gyda'r Voortrekkers a ymfudodd allan o'r Penrhyn tuag at dwyarain perfeddwlad De Affrica yn hanner gyntaf yr 19g)
      • Afrikaans Namibia' - mae Afrikaans yn un o brif ieithoedd Namibia a bu'n iaith yno ers canrifoedd fel mam iaith ac fel lingua franca [1] Yn 2010-11 fel ymgais i ail-ddiffinio'r dafodiaeth fel creuwyd sioe lwyfan gerddorol hop-opera o'r enw Afrikaaps gan artistiaid Afrikaans amrywiol yn wyn ac yn arbennig o'r gymuned Kaapse Kleurlinge. Trosglwyddwyd hanes y dafodiaith (a'i iaith Afrikaans) drwy gyfrwng jazz, hip-hop, caneuon traddodiadol goema a reggae gan adrodd hanes o'r dyddiau cynnar a hanes siaradwyr cynharaf yr iaith newydd, Autshumaoa ("Harry the Strandloper") i'r presenol.[2]

DolenniGolygu

CyfeiriadauGolygu