Hinsawdd
Hinsawdd yw cyflwr y tywydd mewn ardal dros gyfnod o amser. Cyflwr tymor hir o dywydd rhagweladwy yw hinsawdd. Mae hinsawdd yn cael ei heffeithio gan nodweddion ffisegol y ddaear megis mynyddoedd, afonydd, lledred, diffeithdiroedd a diwasgeddau.
Yr Amgylchedd | |
![]() | |
Tywydd Newid hinsawdd
Cynhesu byd eang |
Dosbarthiadau hinsawdd Golygu
Dosberthir hinsawdd y byd i bum prif gategori:
Pegynnol
Mae'r rhanbarthau yma yn oer iawn trwy gydol y flwyddyn. Mae'r tymheredd cynhesaf yn llai na 10C.
Tymherus
Ardaloedd sy'n dueddol o orwedd rhwng 23.5 a 66.0 lledred. Ardaloedd lle bo'r mis oeraf llai na 18 °C ac yn fwy na -3 °C a lle bo'r mis cynhesaf yn fwy na 10 °C. Mae rhan fwyaf o Orllewin Ewrop yn yr ardal tymherus. Gweler Hinsawdd Cymru.
Cras
Dyma'r ardaloedd sych lle mae'r anweddiad yn uwch na'r dyddodiad. Mae'r ardaloedd hyn ymhell o'r môr a gall y tymheredd amrywio llawer.
Trofannol
Mae'r tymheredd yn uchel trwy gydol y flwyddyn yn yr ardaloedd hyn. Mae ganddynt 2 dymor; gwlyb a sych.
Y Môr Canoldir
Mae'r hinsawdd hon yn gynnes ac yn sych yn yr haf ac yn oer ac yn wlyb yn y gaeaf.
Ffactorau sy'n effeithio a'r hinsawdd Golygu
Lledred Golygu
Mae lledred yn cael ei benderfynu gan ein pellter oddi wrth y gyhydedd. Lledred y gyhydedd yw 0 gradd.
Dylanwad morol Golygu
Ym Mhrydain, mae'r môr yn effeithio'r tymheredd:
- Yn y gaeaf mae'r môr yn araf i oeri ac felly mae'r lleoedd arfordirol yn gynhesach ac yn llaith.
- Yn yr haf mae'r môr yn araf i dwymo ac felly mae'r ardaloedd arfordirol yn oerach na'r ardaloedd bellach o'r môr.
- Mae yna lai o amrediad i dymereddau ardaloedd arfordirol nag o dymereddau ardaloedd bellach o'r môr.
Uchder Golygu
Ymhob 165m uwchben lefel y môr, mae'r tymheredd yn gostwng 1 °C oherwydd mae tir uchel yn colli mwy o wres na thir isel.
Agwedd Golygu
Mae agwedd yn cyfeirio at y ffordd y mae tir yn wynebu'r haul. Yn hemisffer y gogledd, mae llethrau serth sydd yn wynebu'r dde (agwedd ddeheuol) yn gweld mwy o'r haul na'r llethrau sydd yn wynebu'r gogledd (agwedd ogleddol) ac felly maent yn gynhesach.
Gweler Hefyd Golygu
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Peel, M. C. and Finlayson, B. L. and McMahon, T. A. (2007). "Updated world map of the Köppen–Geiger climate classification". Hydrol. Earth Syst. Sci. 11: 1633–1644. doi:10.5194/hess-11-1633-2007. ISSN 1027-5606. http://www.hydrol-earth-syst-sci.net/11/1633/2007/hess-11-1633-2007.html. (direct: Final Revised Paper)