Agor y brif ddewislen

Tywydd

cyflwr yr atmosffer ar foment mewn amser

Tywydd yw cyflwr yr atmosffer ar foment mewn amser. Gall tywydd amrywio yn fawr iawn dros gyfnod byr iawn. Mesuriad o dywydd dros gyfnod hir yw hinsawdd.

Yr Amgylchedd
Yr Amgylchedd

Tywydd
Hinsawdd
Atmosffer y ddaear


Newid hinsawdd Cynhesu byd eang


Categori

Tywydd y DdaearGolygu

Ar y Ddaear, rydym yn profi ffenomenau tywydd megis gwynt, glaw, eira a niwl yn aml. Rydym yn profi trychinebau naturiol megis corwyntoedd, troellwyntoedd, a stormydd iâ yn llai aml. Mae'r ffenomenau hyn yn digwydd oherwydd Troposffer sef sector isaf yr atmosffer. Mae tywydd yn digwydd ar y ddaear yn anad dim oherwydd dwysedd a thymheredd rhannau gwahanol yr atmsoffer.

Ffenomenau yr ydym yn gweld yn aml ar y ddaear:

CwmwlGolygu

Prif erthygl: cwmwl
 
Storm fellt a tharanau yn yr Almaen

Casgliad o ddiferynnau neu risialau wedi rhewi yn yr awyr yw cwmwl (Lladin: cumulus). Ar y ddaear, dŵr yw'r elfen sy'n eu ffurfio. Rhennir cymylau yn ddau brif ddosbarth, cymylau stratus (o'r Lladin stratus, yn golygu "haen") a chymylau cumulus (Lladin, "wedi eu pentyrru").

DiwasgeddGolygu

Prif erthygl: diwasgedd

Pan mae dau aergorff gwahanol yn cwrdd, mae'r ffin rhyngddynt yn cael ei galw'n "ffrynt". Aergorff yw dau wahanol fath o aer. Ym Mhrydain mae hyn i'w weld pan mae aer oer pegynnol yn cwrdd ag aer cynnes trofannol. Mae diwasgeddau yn gysylltiedig ag ardaloedd gwasgedd isel oherwydd mae'r aer o fewn y diwasgedd yn codi a throi.

DyodiadGolygu

Prif erthygl: dyodiad

Unrhyw fath o gyddwysiad yw dyodiad.

GlawGolygu

Prif erthygl: glaw

Math o gyddwysiad yw glaw. Ffurfiau eraill ar gyddwysiad anwedd dŵr yw eira, eirlaw, cenllysg/cesair a gwlith.

Llên, llyfr a llafarGolygu

Hanesion yn dangos pwysigrwydd y tywydd i bobl men ffyrdd anisgwyl:

  • Ceir nifer o ganeuon plant am y tywydd gan gynnwys: "Mae'n bwrw glaw yn sobor iawn!" acheir rhai hen benillion hefyd:
Mae gen i ac mae gan lawer
Gloc ar y mur i ddweud yr amser,
Mae gan Moses Pant-y-meysydd
Gloc ar y mur i ddweud y tywdd.
  • Mewn cyfweliad gyda William Owen o Ddyffryn Ardudwy ar raglen Dei Tomos (BBC Radio Cymru) ym mis Tachwedd y llynedd, soniodd WO am ei fam Rhinogwen yn cael ei geni (ar yr un diwrnod â Kyffin Williams!) pan oedd eira ar y Rhinogydd gerllaw. Felly y cafodd ei henw Rhinogwen. Y dyddiad hwyr oedd 9ed Mai 1918. Oedd yna eira ar y mynyddoedd ym mis Mai y flwyddyn honno ynteu rhamant teuluol ydoedd?[1]
  • Ar ôl cael hanes Rhinogwen yn y rhifyn diwethaf, dyma berson arall yn rhannu hanesyn bod ei henw yn gofnod tywydd...
26 Medi 1954: Heulwen Jones yn dweud iddi gael ei geni adref yn Llanberis y diwrnod hwn a'i mam yn gyndyn o'i galw yn Heulwen i ddechrau gan fod storm o law a gwynt y diwrnod hwnnw. "Mi fydd hi'n heulwen i ti yn fuan iawn siwr i ti" meddai rhywun! A Heulwen oedd hi...[2]

Gweler hefydGolygu