Hirlwm
Yr adeg o'r flwyddyn sydd rhwng diwedd y gaeaf a dechrau'r haf yw'r hirlwm. Dau air "hir" a "llwm" yn dod at ei gilydd ydyw. Fel arfer ceir prinder bwyd yr adeg yma i ddyn ac anifail, er bod rhai cyfarpar megis yr oergell a'r rhewgell a siopau archfarchnad wedi dileu hyn i raddau helaeth.
Gellir defnyddio'r gair i ddisgrifio cyfnod llwm o bethau eraill e.e. "hirlwm pres" am "credit crunch".
Byddai'r hen bobol yn arfer cadw stên o fenyn a ballu heb eu cyffwrdd tan ddechrau mis Mawrth, oherwydd edrychid ar y mis hwnnw fel un caled.
Dyma englyn gan Alun Cilie i'r Hirlwm:
- Adeg dysgub ysgubor - hir gyni
- A'r Gwanwyn heb esgor,
- Y trist wynt yn bwyta'r ystôr
- Hyd y dim rhwng dau dymor.