Hirohito
Yr Ymerawdwr Shōwa (昭和天皇 Shōwa Tennō) (29 Ebrill 1901 – 7 Ionawr 1989) oedd 124fed ymerawdwr Japan. Fe deyrnasodd rhwng 25 Rhagfyr 1926, hyd ei farwolaeth yn 1989. Adnabyddir ef oddi allan i Japan gan yr enw Hirohito (裕仁), sef "benthyciadau gorfodol, niferus". Rhoddwyd yr enw Ymerawdwr Shōwa iddo ar ôl iddo farw a gelwir yr amser pan deyrnasodd y Cyfnod Shôwa (昭和時代 Cyfnod Hedd Goleuedig) yn Siapan. Fe oedd yn rheoli Siapan drwy gydol yr Ail Ryfel Byd. Ei deyrnasiad oedd yr un mwyaf hir o bob ymerawdwr. Ei fab hynaf, a'r ymerawdwr heddiw, yw Akihito.
Hirohito | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 29 Ebrill 1901 ![]() Aoyama ![]() |
Bu farw | 7 Ionawr 1989 ![]() o duodenum cancer ![]() Fukiage Gyoen ![]() |
Dinasyddiaeth | Japan, Ymerodraeth Japan ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | person milwrol, diplomydd, botanegydd morol, swolegydd, teyrn, pendefig ![]() |
Swydd | Ymerawdwr Japan, Governor-General of the Philippines ![]() |
Taldra | 1.65 metr ![]() |
Tad | Emperor Taishō ![]() |
Mam | Empress Teimei ![]() |
Priod | Kōjun ![]() |
Plant | Shigeko Higashikuni, Sachiko, Princess Hisa, Kazuko Takatsukasa, Atsuko Ikeda, Akihito, Ymerawdwr Japan, Masahito, Prince Hitachi, Takako Shimazu ![]() |
Llinach | Llys Ymerodrol Japan ![]() |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd yr Eryr Gwyn, Prif Ruban Urdd y Blodau Paulownia, Grand Cordon of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Urdd Sant Andreas, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Order of the Golden Kite, Order of the Most Holy Annunciation, Urdd Rajamitrabhorn, Urdd y Gardas, Urdd Coron Brwnei, Urdd Brenhinol y Seraffim, Urdd yr Eliffant, Urdd Ojaswi Rajanya, Order of the Orchid Blossom, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Urdd Sikatuna, Urdd y Trysor Sanctaidd, Urdd y Baddon, Royal Victorian Order, Urdd Croes y De, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Coler Urdd Siarl III, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol ![]() |
Llofnod | |
![]() |

Ar ddechrau ei deyrnasiad, roedd Japan yn un o bwerau mawr y byd: y 9fed ar ôl yr Eidal o ran economi a'r trydydd o ran llynges arfog. Roedd hefyd yn aelod o Gynghrair y Cenhedloedd.[1] Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ni chafodd mo'i erlyn am droseddau rhyfel. Ceir llawer o ddadlau am ei ran ym mhenderfyniadau milwrol ei wlad, ac osgodd farwolaeth ar ddiwedd y rhyfel.[2] Wedi'r rhyfel daeth yn symbol o'r wlad newydd ac erbyn diwedd ei deyrnasiad, roedd Japan yn ail economi mwyaf y byd.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Northedge, Frederick S. (1986). The League of Nations: Its Life and Times, 1920-1946. New York: Holmes & Meier. tt. 42–48. ISBN 978-0841910652.
- ↑ Y. Yoshimi and S. Matsuno, Dokugasusen Kankei Shiryô II, Kaisetsu, Jugonen Sensô Gokuhi Shiryoshu, 1997, t. 27–29