Mae Urdd Fwyaf Anrhydeddus y Baddon (cynt Urdd Filwrol Fwyaf Anrhydeddus y Baddon) yn urdd anrhydedd Brydeinig. [1]

Bathodyn Marchog y Groes Fawr (GCB) Urdd y Baddon

Hanes golygu

Sefydlwyd Urdd y Baddon gan y Brenin Siôr I ar 18 Mai 1725. Mae'r enw yn deillio o seremoni ganoloesol ar gyfer penodi marchog, a oedd yn cynnwys ymdrochi (fel symbol o buro) fel un o'i elfennau. Galwyd marchogion a grëwyd trwy ddilyn y fath seremoni yn "Farchogion y Baddon". Penderfynodd Siôr I i drefnu marchogion y baddon fel Urdd filwrol reolaidd. Yn groes i'r gred gyffredin ni wnaeth Siôr atgyfodi'r urdd, gan nad oedd y fath urdd o farchogion, wedi ei gyfyngu o ran niferoedd ac yn cael ei lywodraethu gan statudau wedi bodoli eisoes. [2]

Urdd y baddon yw'r pedwerydd yn nhrefn Urddau sifalri Prydain, ar ôl Urdd Fwyaf Urddasol y Gardys, Urdd Hynafol a Mwyaf Urddasol yr Ysgallen, ac Urdd Fwyaf Hyglod St Padrig (bellach yn urdd segur).

Aelodaeth golygu

 
Mantell seremonïol aelod o'r urdd

Mae aelodau'r urdd yn cynnwys y sofran (Siarl III ar hyn o bryd), Yr Oruwch Feistr (gwag ar hyn o bryd), a thri Dosbarthiad o aelodau:

Marchog y Groes Fawr (GCB) neu Fonesig Y Groes Fawr (GCB)

Marchog Cadlywydd (KCB) neu Fonesig Cadlywydd (DCB)

Cydymaith (CB)[3]

Cyfyngir nifer yr aelodau i 120 Marchog neu Fonesig y Groes Fawr; 355 Marchog neu Fonesig Cadlywydd a 1,925 Cydymaith. [4] Mae aelodaeth reolaidd wedi'i gyfyngu i ddinasyddion y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill y Gymanwlad y mae'r Frenhines yn Sofran arnynt. [5] Gall dinasyddion y Gymanwlad nad ydynt yn ddeiliaid y Frenhines a dinasyddion tramor fod yn Aelodau Anrhydeddus. Nid yw aelodau anrhydeddus yn cyfrannu at y niferoedd uchafswm a chaniateir ym mhob dosbarth. Mae aelodau'n perthyn naill ai i'r Adran Sifil neu'r Adran Filwrol. Cyn 1815, dim ond un dosbarth oedd gan yr urdd sef Marchog Cydymaith (KB), sydd ddim yn bodoli mwyach. Mae aelodau'r urdd fel arfer yn uwch swyddogion milwrol neu weision sifil uwch.

Derbyniwyd merched i'r urdd ym 1971. Yn Anrhydedd Blwyddyn Newydd 1971, daeth Jean Nunn y fenyw gyntaf (ac eithrio breninesau sofran) i'w hurddo yn aelod. [6]

Aelodau Tramor golygu

Mae'r Frenhines Elisabeth II wedi sefydlu'r arfer o ddyfarnu GCB er anrhydedd i benaethiaid wladwriaethau gweriniaethol sy'n gwneud ymweld gwladol i'r DU, er enghraifft, Gustav Heinemann a Josip Broz Tito (ym 1972), Ronald Reagan (ym 1989), Lech Wałęsa (ym 1991), Censu Tabone, Arlywydd Malta, ym 1992, Fernando Henrique Cardoso, a George H W Bush (ym 1993), Nicolas Sarkozy ym mis Mawrth 2008, cyn Arlywydd Indonesia Susilo Bambang Yudhoyono (2012). Arlywydd Twrci Abdullah Gül, Arlywydd Slofenia Dr Danilo Türk , Arlywydd Mecsico Felipe Calderón, ac Arlywydd De Affrica Jacob Zuma . (Mae gwladweinwyr gwledydd brenhinol fel arfer yn cael eu gwneud yn aelodau er anrhydedd o Urdd y Gardys). Mae arweinwyr milwrol tramor hefyd yn cael eu hurddo'n aelodau er anrhydedd, er enghraifft: y Marsial Ferdinand Foch a'r Marsial Joseph Joffre yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; Y Marsial Georgy Zhukov, Y Brenin Abdul-Aziz o Sawdi Arabia, Y Cadfridog Dwight D. Eisenhower a'r Cadfridog Douglas MacArthur yn ystod yr Ail Ryfel Byd; a'r Cadfridogion Norman Schwarzkopf a Colin Powell wedi rhyfel y Gwlff.

Diarddeliad golygu

Gellid canslo neu ddirymu aelodaeth, a dileu'r cofnod yn y gofrestr, trwy orchymyn a lofnodwyd gan y sofran ac wedi ei selio â sêl yr urdd, ar argymhelliad y Gweinidog priodol.

Ym 1923 fe wnaed Benito Mussolini, yr unben Eidalaidd, yn Farchog y Groes Fawr er anrhydedd, gan y Brenin Siôr V. Cafodd Mussolini ei ddiarddel o'r urdd ym 1940, ar ôl iddo ddatgan rhyfel yn erbyn y DU. [7]

Collodd William Pottinger, uwch was sifil, ei statws aelodaeth o Urdd y Baddon ac Urdd Frenhinol Fictoria ym 1975 pan gafodd ei garcharu am dderbyn anrhegion llwgr gan y pensaer John Poulson.

Cafodd Arlywydd Rwmania, Nicolae Ceauşescu, ei ddiarddel o'r urdd gan y Frenhines Elizabeth II ar 24 Rhagfyr 1989, y diwrnod cyn ei ddienyddio. Cafodd Robert Mugabe, Arlywydd Simbabwe, ei ddiarddel, ar gais yr Ysgrifennydd Tramor, David Miliband, ar 25 Mehefin 2008 am ei ddiffyg parch at hawliau dynol a'r drefn ddemocrataidd.

Diarddelwyd Vicky Pryce, cyn gwraig yr AS Rhyddfrydol Chris Huhne ar 30 Gorffennaf 2013, wedi iddi gael euogfarn am wrthdroi cwrs cyfiawnder.

Cyfeiriadau golygu

  1. Montague-Smith, P.W. (gol.), Debrett's Peerage, Baronetage, Knightage and Companionage, Kelly's Directories Ltd, Kingston-upon-Thames, 1968
  2. Anstis, John (1752). Observations introductory to an historical essay, upon the Knighthood of the Bath. London: James Woodman.
  3. Westminster Abbey – Order of the Bath Archifwyd 2018-12-12 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 20 Medi 2018
  4. Encyclopaedia Britannica The Most Honourable Order of the Bath adalwyd 20 Medi 2018
  5. "Order of the Bath". Official website of the British monarchy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Ionawr 2012. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "www.royal.gov.uk The Order of the Bath". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Medi 2006. Cyrchwyd 9 Medi 2006. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. Ishaan Tharoor, 2012, "Disgraced British Knights: A Not-So-Chivalrous History", Time adalwyd 20 Medi 2018).