Yn yr Unol Daleithiau, gweithiwr ymfudol neu grwydryn digartref, yn aml heb yr un geiniog, yw hobo. Mae'n teithio er mwyn chwilio am waith, tra bo trampiaid yn teithio i osgoi gwaith a bums yn tinymdroi yn yr unfan ac yn cardota. Yn aml maent yn teithio drwy sleifio ar drên, a chysylltir hobos yn gryf â'r rheilffyrdd Americanaidd.[1]

Tri hobo yn eistedd gyda'i gilydd yn Chicago, Illinois, ym 1929.

Mae gan hobos isddiwylliant eu hunain, sy'n cynnwys iaith gymunedol, côd o arwyddion i roi gwybodaeth i hobos eraill, cynhadledd genedlaethol flynyddol yn Britt, Iowa, a safonau moesegol.

Bu nifer o unigolion enwog yn hobos ar ryw bryd, gan gynnwys Jack Dempsey, Jack London, Woody Guthrie, Boxcar Willie, Louis L'Amour, a Seasick Steve. Delwedd ystrydebol o hobo yw'r dyn mewn dillad anniben yn dal bindle, sef sach fechan wedi'i chlymu ar ffon a gaiff ei chario dros yr ysgwydd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Lennon, John. "Ridin’ the Rails: The Place of the Passenger and the Space of the Hobo", Americana 3(2) Tymor yr hydref 2004.