Pantheistiaeth
(Ailgyfeiriad o Holl-dduwiaeth)
Y cysyniad bod popeth sy'n bodoli yn undod a bod yr undod hwnnw yn ddwyfol yw pantheistiaeth neu holl-dduwiaeth. Cafodd y term ei fathu gan yr athronydd John Toland yn 1705, ond mae'r cysyniad yn hŷn na hynny. Yn ôl pantheistiaeth nid oes rhagor rhwng Duw a chreaduriaid, sydd y gwrthwyneb i'r hyn a geir yn y crefyddau unduwiaethol fel Cristnogaeth ac Islam.
 rhai athronwyr holl-dduwiaethol, fel Spinoza (1632-77), gam ymhellach a datgan mai dim ond un sylwedd sy'n bodoli, a bod hwnnw'n ddwyfol; disgrifiad Spinoza o'r cyflwr hwn oedd Deus sive natura ('Duw neu natur').
Cafodd pantheistiaeth ddylanwad mawr ar athronwyr a llenorion cyfnod yr Oleuedigaeth yn Ewrop, fel Rousseau, ac ar y Rhamantwyr yn nes ymlaen.