Athronydd Gwyddelig oedd John Toland (30 Tachwedd 167011 Mawrth 1722) sy'n nodedig am ei athroniaeth resymolaidd a'i ddaliadau rhydd-feddyliol.

John Toland
Ganwyd30 Tachwedd 1670 Edit this on Wikidata
Inishowen Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 1722 Edit this on Wikidata
Wandsworth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, diwinydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd i deulu Gwyddeleg ei iaith yn Inishowen, Swydd Donegal.[1] Fe'i bedyddiwyd yn Janus Junius. Cafodd ei fagu'n Gatholig, a throdd yn Brotestant yn ei arddegau. Dihangodd o'r ysgol yn 16 oed, a symudodd i'r Alban yn 1687 i fynychu Prifysgol Glasgow, ac yn 1690 derbyniodd ei radd meistr o Brifysgol Caeredin. Astudiodd ym Mhrifysgol Leiden am ddwy flynedd, ac yna symudodd i Rydychen i ymchwilio yn Llyfrgell Bodley, er nad oedd yn fyfyriwr yno.[2] Yn ystod ei gyfnod yn Rhydychen, cychwynnodd ar gasglu geiriadur Gwyddeleg, ond bu'r gwaith hwnnw yn anorffenedig ganddo.[1] Er y parhaodd yn Gristion drwy gydol ei fywyd, datblygodd ei syniadaeth grefyddol yn ddeistaidd.

Gweithiau crefyddol ac athronyddol golygu

Cyhoeddoedd ei lyfr cyntaf, a'i waith pwysicaf, Christianity Not Mysterious (1696) yn fuan wedi iddo orffen ei addysg. Ynddo, mae'n dadlau nad oes angen ffydd i ddeall pob athrawiaeth Feiblaidd, a bod modd dehongli gwyrthiau ac elfennau goruwchnaturiol y Beibl drwy reswm. Yn sgil erbyniad chwerw'r llyfr, cafodd achos ei ddwyn yn ei erbyn ym Middlesex a ffoi i Ddulyn wnaeth Toland. Yno, condemniwyd ei waith gan Senedd Iwerddon a'i losgwyd, a dychwelodd Toland i Loegr i osgoi gael ei arestio.

Denodd Toland ragor o feirniadaeth am ei fywgraffiad o'r bardd John Milton, Life of Milton (1698), am iddo gwestiynu dilysrwydd y Testament Newydd. Amddiffynnodd ei hunan yn Amyntor, or a Defence of Milton's Life (1699), sy'n ymdrin â'r gweithiau apocryffaidd nas cynhwysir yn y canon Beiblaidd.

Toland a fathodd y gair pantheist, a hynny yn ei waith Socinianism truly stated (1705), i ddisgrifio'r gred bod popeth sy'n bodoli yn undod a bod yr undod hwnnw yn ddwyfol.[3] Yn ei waith Origines Judaicae (1709), dadleuodd bod yr Iddewon yn disgyn o'r Eifftiaid.

Gwleidyddiaeth golygu

O ran ei wleidyddiaeth, Chwig oedd Toland. Roedd yn gefnogwr brwd dros yr olyniaeth Hanoferaidd, ac yn un o'r rhai a gyflwynodd Deddf Sefydlogi 1701 i'r Etholyddes Sophie.

Diwedd ei oes golygu

Cyhoeddwyd ei bamffled Reasons for Naturalising the Jews in Great Britain and Ireland on the Same Footing with All Other Nation (1714) yn ddienw, gwaith sy'n dadlau dros dderbyn Iddewon yn ddinasyddion Prydeinig er mwyn denu eu galluoedd economaidd i'r wlad.[4]

Bu farw yn Putney, ger Llundain, yn 51 oed.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 James McGuire, "Toland, John" yn yr Encyclopedia of Irish History and Culture (The Gale Group,2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 30 Mawrth 2019.
  2. Ernest Campbell Mossner a Philip Reed, "Toland, John (1670–1722)" yn yr Encyclopedia of Philosophy (Thomson Gale, 2006). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 30 Mawrth 2019.
  3. Alasdair MacIntyre, "Pantheism" yn yr Encyclopedia of Philosophy (Thomson Gale, 2006). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 30 Mawrth 2019.
  4. Cecil Roth, "Toland, John" yn yr Encyclopaedia Judaica (Thomson Gale, 2007). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 30 Mawrth 2019.
  5. (Saesneg) John Toland. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Mawrth 2019.

Darllen pellach golygu

  • Justin Champion, Republican Learning: John Toland and the Crisis of Christian Culture, 1696–1722 (Manceinion: Manchester University Press, 2003).
  • Stephen H. Daniel, John Toland: His Method, Manners, and Mind (Kingston, Ontario: McGill-Queen's University Press, 1984).
  • Alan Harrison, Béal eiriciúil as Inis Eoghain: John Toland (1670–1722) (Dulyn: Coiscéim, 1994).
  • F. H. Heinemann, "John Toland and the Age of Enlightenment." Review of English Studies 20 (1944): 125–146.
  • F. H. Heinemann, "John Toland and the Age of Reason." Archiv für Philosophie 4 (1950): 35–66.
  • Philip McGuinness, Alan Harrison, a Richard Kearney (gol.), John Toland's Christianity not Mysterious: Text, Associated Works, and Critical Essays (Dulyn: Lilliput Press, 1997).
  • J. G. Simms, "John Toland (1670–1722), a Donegal Heretic." Irish Historical Studies 16 (1969): 304–320.
  • Robert E. Sullivan, John Toland and the Deist Controversy (Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press, 1982).