Horace Lyne
Chwaraewr rygbi Cymreig a anwyd yng Nghasnewydd oedd Horace Sampson Lyne (31 Rhagfyr 1860 - 1 Mai 1949). Roedd yn aelod o Glwb Rygbi Casnewydd.
Horace Lyne | |
---|---|
Ganwyd | 31 Rhagfyr 1860 Casnewydd |
Bu farw | 1 Mai 1949 Casnewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, swyddog gêm rygbi'r undeb, cyfreithiwr |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Casnewydd |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Roedd lyne yn fab i Charles Lyne, maer Casnewydd yn 1856 ac eilwaith yn 1884. Addysgwyd ef yn Plymouth a'r Royal Naval College cyn gweithio fel cyfreithiwr. Bu farw 1 Mai 1949 yng Nghasnewydd.
Rygbi
golyguChwaraeodd fel cefnwr i Glwb Rygbi Casnewydd pan oedd yn 18 oed, ac yna fel blaenwr; daeth yn gapten y clwb rhwng 1883 a 84, ac enillodd 6 chap dros Gymru rhwng 1883 a 1885.
Fel cynrychiolydd y gêm yng Nghymru, bu'n un o sylfaenwyr y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn 1886-87. Bu'n Llywydd Undeb Rygbi Cymru am gyfnod hirach na neb. Ef a Walter E. Rees a roddodd drefn ar faterion rygbi yng Nghymru yn hanner cyntaf yr 20g.
Anrhydeddau
golyguUrddwyd ef â rhyddfraint y dref yn 1934 a phenodwyd ef yn ganghellor Esgobaeth Mynwy yn 1938. Bu hefyd yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ bywgraffiadur.cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 31 Rhagfyr 2018.