Horace Mann
Addysgwr a gwleidydd o'r Unol Daleithiau oedd Horace Mann (4 Mai 1796 – 2 Awst 1859).
Horace Mann | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mai 1796 Franklin |
Bu farw | 2 Awst 1859 Yellow Springs |
Man preswyl | Massachusetts |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, academydd, cyfreithiwr, llenor |
Swydd | Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, aelod o Dŷ Cynrycholwyr Massachusetts, aeold o Sened Talaith Massachusetts |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Whig Party |
Tad | Thomas Mann |
Mam | Rebecca Mann |
Priod | Mary Tyler Mann |
Plant | Horace Mann Junior |
Gwobr/au | Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
llofnod | |
Ganed yn Franklin, Massachusetts, Unol Daleithiau America, a chafodd febyd hynod o dlawd. Er gwaethaf addysg annigonol yn yr ysgol, ymelwodd ar lyfrgell gyhoeddus Franklin a thiwtoriaeth yn yr ieithoedd Ladin a Groeg oddi ar Samuel Barrett, a fu yn ddiweddarach yn un o brif weinidogion yr Undodwyr. Derbyniwyd Mann yn ugain oed i'r ail flwyddyn ym Mhrifysgol Brown, ac yno ymddiddorai yng ngwleidyddiaeth, addysg, a diwygio cymdeithasol. Fe'i dewiswyd i annerch ei ddosbarth ar y diwrnod graddio ym 1819, ac mae'r araith ffarwél honno yn esiampl o'i optimistiaeth a'i ddyngarwch.[1]
Penderfynodd Mann gychwyn ar yrfa yn y gyfraith, a chychwynnodd drwy ddysgu dan gyfreithiwr yn Wrentham, Massachusetts, am gyfnod byr cyn iddo ddychwelyd at Brifysgol Brown am flwyddyn i addysgu myfyrwyr. Astudiodd yn Ysgol y Gyfraith yn Litchfield, Connecticut, a fe'i galwyd i'r Bar ym 1823. Ymsefydlodd yn Dedham, Massachusetts, i drin y gyfraith ac enillodd enw fel cyfreithegwr craff a rhethregwr medrus. Gwasanaethodd yn Nhŷ Cynrychiolwyr Massachusetts o 1827 i 1833 a gweithiodd i sefydlu gwallgofdy taleithiol yn Worcester. Symudodd i Boston ym 1833 a gwasanaethodd yn Senedd Massachusetts o 1835 i 1837, gan gynnwys yn swydd y llywydd ym 1836.[1]
Ym 1837 sefydlwyd bwrdd addysg taleithiol gyda'r nod o ddiwygio ysgolion Massachusetts, a phenodwyd Mann yn ysgrifennydd cyntaf y bwrdd. Wedi iddo adael y ddeddfwrfa, nid oedd fawr o rym gan Mann i newid polisïau'r dalaith, ond bu'n arweinydd amlwg a dylanwadol yn y mudiad addysg gyhoeddus wrth ei swydd yn bennaeth ar y bwrdd am 11 mlynedd. Ym 1838 sefydlodd y Common School Journal, cylchgrawn pythefnosol i athrawon, ac ysgrifennodd 12 o adroddiadau blynyddol ar bwnc addysgeg ac yn dadlau o blaid yr ysgol gyhoeddus a'r angen am athrawon proffesiynol. Bu'n aml yn darlithio i'r cyhoedd yn ei ymgyrch i ddemocrateiddio a rhyddfreinio'r gyfundrefn addysg. Cafodd ei wrthwynebu gan glerigwyr a oedd yn rheoli'r ysgolion enwadol, yr awdurdodau addysg lleol, ac addysgwyr yr hen do.[1]
Yn sgil marwolaeth y cyn-Arlywydd John Quincy Adams ym 1848, ymddeolodd Mann o'r bwrdd addysg er mwyn cymryd sedd Adams yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau. Fel Cyngreswr dros Massachusetts, bu'n wrthwynebydd pybyr o gaethwasiaeth. Ymgyrchodd heb ennill yn etholiad llywodraethwr Massachusetts ym 1852. Penodwyd yn llywydd Coleg Antioch yn Yellow Springs, Ohio, ym 1853, a bu yno hyd ddiwedd ei oes. Bu farw Horace Mann yn Yellow Springs yn 63 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Horace Mann. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Tachwedd 2020.