House of America (ffilm)

ffilm ddrama gan Marc Evans a gyhoeddwyd yn 1997
(Ailgyfeiriad o House of America)

Ffilm a ryddhawyd ym 1997 yw House of America, wedi'i addasu o’r ddrama lwyfan House of America gan Ed Thomas. Wedi’i lleoli mewn tref fechan yn y cymoedd, mae’r ffilm yn olrhain hanes y teulu Lewis; y Fam a’i phlant, Sid, Boyo, a Gwenny. Er bod eu tad yn absennol ar ôl iddo ffoi i’r Amerig flynyddoedd ynghynt, mae cysgod ei ddihangfa yn gyson bresennol. Er i’r ffilm gael ei lleoli yn y Cymoedd mae ynddi atseiniau thematig cryf o fytholegau’r ddrama lwyfan Americanaidd glasurol: y tensiwn sy’n bodoli rhwng caethiwaeth saff y gofod domestig a’r dyhead i ddianc i’r ehangder peryglus tu hwnt i ffiniau’r cartref.

House of America
Cyfarwyddwr Marc Evans
Cynhyrchydd Sheryl Crown
Ysgrifennwr Edward Thomas
Cerddoriaeth John Cale
Sinematograffeg Pierre Aïm
Dylunio Mark Tildesley
Amser rhedeg 93 munud

Cast a chriw golygu

Prif gast golygu

Cast cefnogol golygu

  • Islwyn Morris (Roger the Pop)
  • Brian Hibbard (Wally)
  • Steven Speirs (The Head)
  • Dave Duffy (Molloy)
  • Connor McIntyre (Matty)
  • Andrew Lennon (Off-Licence Man)
  • Donna Edwards (Receptionist)
  • Stella King (Woman with Budgie)
  • Ron Mills / Glen Finick / Terry Arnold / Alan Jones / John Weathers / Dana Colwill (Regular Miners)

Cydnabyddiaethau eraill golygu

  • Cyd-Gynhyrchydd – Hans de Weers
  • Uwch Gynhyrchydd – David Green
  • Colur – Pamela Haddock
  • Cynllunydd Gwisgoedd – Jany Temime

Manylion technegol golygu

Tystysgrif ffilm: Untitled Certificate

Fformat saethu: 35mm

Lliw: Lliw

Iaith Wreiddiol: Saesneg

Lleoliadau Saethu: De Cymru a Calgary, Alberta

Gwobrau golygu

Gŵyl ffilmiau Blwyddyn Gwobr / enwebiad Derbynnydd
Gŵyl Ffilm Stockholm 1997 Best Directorial Debut Marc Evans
BAFTA Cymru 1998 Drama Orau – Saesneg Sheryl Crown
Gwisgoedd Gorau Jany Temime
Cynllunio Gorau Mark Tildesley
Cyfarwyddwr Gorau Marc Evans

Llyfryddiaeth golygu

Llyfrau golygu

  • Blanford, Steve, Film, Drama and the Break-up of Britain (Bristol: Intellect, 2007) tt. 92, 93, 97–8, 155, 176.

Adolygiadau golygu

  • (Saesneg) Hamilton, Jake. House Of America. Empire. Adalwyd ar 29 Awst 2014.      
  • (Saesneg) House of America. Total Film (10 Hydref 1987). Adalwyd ar 29 Awst 2014.      
  • (Saesneg) "NF". House of America. TimeOut. Adalwyd ar 29 Awst 2014.      
  • Robin Gwyn, "Troi’r gwleidyddol yn adloniant." Golwg, Cyfrol 10 Rhif 7, Hydref 16 1997. t. 23.

Erthyglau golygu

Dolenni allanol golygu