House of America (drama)

Drama gyntaf Gymreig, ond yn Saesneg, y dramodydd Ed Thomas yw House of America. Llwyfanwyd y ddrama am y tro cyntaf yng Nghaerdydd ym 1988 gyda Sharon Morgan yn portreadu'r fam. Cyfieithwyd y ddrama i'r Gymraeg gan Sharon Morgan o dan y teitl Gwlad Yr Addewid. Cyhoeddwyd y ddrama am y tro cyntaf ym 1998 gan Lyfrau Seren. Rhyddhawyd addasiad ffilm ym 1997 gan y cyfarwyddwr Cymreig Marc Evans, o dan yr un enw House of America gyda'r fonesig Siân Phillips yn y brif ran.

House of America
Dyddiad cynharaf1988
AwdurEd Thomas
CyhoeddwrSeren Drama
GwladCymru
IaithSaesneg
Argaeleddwedi ei ail-gyhoeddi
ISBN1854111132
GenreDramâu Cymreig

Disgrifiad byr

golygu

Wedi’i lleoli mewn tref fechan yn y cymoedd, mae’r ddrama yn olrhain hanes y teulu Lewis; y Fam a’i phlant, Sid, Boyo, a Gwenny. Er bod eu tad yn absennol ar ôl iddo ffoi i’r Amerig flynyddoedd ynghynt, mae cysgod ei ddihangfa yn gyson bresennol.

"Mae’n stori gref, ac yn ddrama wych am deulu sy’n ceisio atebion; sy’n cwffio yn erbyn pawb a phopeth er mwyn profi eu hunaniaeth. Gydag absenoldeb y tad, mae’r plant yn credu ei fod wedi dianc i’r Amerig, wedi dilyn y Freuddwyd Fawr sy’n parhau i ddallu a denu Sid. Wrth i Bwll Glo arall gael ei agor gerllaw, mae’r ysfa am waith yn atyniad mawr i Sid a Boyo ond yn codi ofn brawychus ar y fam. Ofn sy’n cael ei egluro a’i arteithio wrth i gyfrinachau ddaear ddod i’r wyneb. Yng ngwyneb yr holl anobaith, mae Sid a Gwenny yn boddi eu gofidiau drwy gyffuriau a gwirodydd, gan geisio dianc hefyd, i fyd sy’n well."[1]

Cefndir

golygu

Ym 1988, ysgrifennodd Ed ei ddrama gyntaf, House of America. Enillodd y ddrama sawl gwobr fel drama a ffilm (1996), yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

"Perfformiwyd House of America am y tro cyntaf yn 1988", eglura'r actores a'r dramodydd Sharon Morgan oedd yn portreadu'r fam yn y cynhyrchiad gwreiddiol o'r ddrama: "...yn rhan o dymor o ddramâu roedd Geoff Moore, y dyn difyr hwnnw, yn eu Ilwyfannu yn St Stephen's (Y Point erbyn hyn), yr hen gapel yn y Bae oedd yn gartre' i'w gwmni arloesol Moving Being."[2]

"A dyna ddechrau ar siwrne wyllt, gyffrous. Pum paced o sigaréts ar ford fach ddu a dwy gadair y naill ochr iddi oedd yn cynrychioli tŷ'r Lewisiaid, a'r nosweithiau hwyr meddw yn y Dowlais [tafarn] yn ein cynnal ni wrth i ni geisio ufuddhau i orchymyn Ed [Thomas] i dorri holl gadwynau confensiwn, i 'fod yn rhydd', i 'dorri'r walie lawr'. Deuddeg oedd yn y gynulleidfa ar y noson gynta', a'r dramodydd Siôn Eirian yn eu plith, yr hwn a ddywedodd, wrth Ed, mae'n debyg: 'Galli di dowlu dy bensil nawr'. Yn dilyn taith fer o gwmpas cymoedd de Cymru yn yr hydref, aethon ni i berfformio yng Nghanolfan Gelfyddydol Battersea yn Llundain, cyn dychwelyd i Gaerdydd, a'r gynulleidfa erbyn hyn yn y mestyn mas i'r hewl yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter. Ar hyd y daith cafodd y drama adolygiadau gwych ac yn 1989 fe berfformio'n ni yng Ngŵyl Caeredin, ac yn yr un flwyddyn fe enillodd y drama wobr Time Out/01 for London."[2]

"Ers hynny mae'r ddrama wedi ei chynhyrchu droeon yng Nghymru," ysgrifennodd Sharon Morgan yn y Rhagair i'r ddrama yn 2015, "ac wedi ei chyfieithu i amryw o ieithoedd."[2]

"Mae wedi bod yn fraint arbennig ei chyfieithu i'r Gymraeg [...] Mae'r themâu yn fyd-eang [...] Wrth ailymweld â'r cyfnod yn fy mhen, es i ar daith yn ôl i'r gorffennol, ac with deipio, fe ddaeth aml i wên wrth glywed atseiniau lleisiau Russ [Russel Gomer], Rich [Richard Lynch], Tim [Lyn], Ed [Thomas], Cath [Treganna] a Wyn [Wyndham Price] yn bownsio o gwmpas yr ystafell ymarfer. Ond er ei lleoli yn yr wythdegau, mae'r neges yr un mor berthnasol heddiw, i ni yng Nghymru, ac ym mhobman yn y byd lle mae angerdd gwirionedd hunaniaeth yn cael ei wyrdroi."[2]

Cymeriadau

golygu
  • Mam
  • Boyo
  • Gwenny
  • Sid
  • Labrwr

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1980au

golygu

Performiwyd House of America am y tro cyntaf ym mis Mai 1988, yn Theatr San Steffan [The Point], Caerdydd, fel rhan o'i thymor ysgrifennu radical; Cyfarwyddwr Ed Thomas; set a goleuo Ian Hill; cerddoriaeth Wyndham Price; cast:

Teithiodd y fersiwn ddiwygiedig o gwmpas de Cymru, i Lundain ac i Ŵyl Caredin ym 1989, gyda Richard Lynch yn portreadu Boyo.

1990au

golygu

2010au

golygu

Llwyfannwyd y ddrama yn theatr Brockley Jack, Llundain gan Ysbryd London a Free Fall Productions yn 2017; cyfarwyddwr James O’Donnell;[3]

  • Mam - Lowri Lewis
  • Boyo - Robert Durbin
  • Gwenny - Evelyn Campbell
  • Sid - Pete Grimwood
  • Labrwr

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Paul Griffiths". paulpesda.blogspot.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-21.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Ed Thomas, Sharon Morgan (2015). Gwlad Yr Addewid. Seren Drama. ISBN 9781910409008.
  3. "London Pub Theatres Archive — HOUSE OF AMERICA by Ed Thomas Jack Studio at the..." pubtheatres1.tumblr.com. Cyrchwyd 2024-09-21.