Ysgol Gyfun Llangefni

ysgol gyfun Gymraeg yn Llangefni, Ynys Môn

Ysgol uwchradd yn Llangefni, Ynys Môn, yw Ysgol Gyfun Llangefni. Cafodd yr adeilad ei adeiladu yn 1953.

Ysgol Gyfun Llangefni
Mathysgol gyfun, ysgol ddwyieithog Edit this on Wikidata
LL-Q9309 (cym)-RandomWilliams1908-Ysgol Gyfun Llangefni (Q8059739).wav Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1953 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadYnys Môn Edit this on Wikidata
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.25575°N 4.32075°W Edit this on Wikidata
Cod postLL77 7NG Edit this on Wikidata
Map

Y prifathro presennol yw Huw Davies. Y dirprwy yw Ffion Wyn Gough.

Cefndir golygu

Mae tua 670 o blant yn mynychu’r ysgol[1] a thua 50 o athrawon yn gweithio yno. Mae yna dros 30 o ystafelloedd dosbarth yn yr ysgol, gan gynnwys ystafelloedd cyfrifiaduron a’r campfeydd. Lliw’r wisg ysgol yw glas golau a glas tywyll gyda logo melyn arni, sy'n cynnwys llun llew, tarw, symbol fleur de lis a penwisg milwr. Arwyddair yr ysgol yw “Gorau Cynnydd, Cadw Moes”. Mae'r ysgol hefyd yn rhoi'r cynnig i ddisgyblion ddod yn ôl i'r ysgol ar ôl arholiadau TGAU i fynychu'r Chweched Dosbarth. Mae'r wisg yn cynnwys crys gwyn a siwmper ddu a tei glas a melyn. Mae nifer o bynciau amrywiol o ddewis i'r disgyblion eu hastudio fel pynciau lefel A.

Ceir nifer o dimau chwaraeon merched a bechgyn llwyddiannus iawn yn yr ysgol. Mae gwersi ymarfer corff hwyliog ddwywaith yr wythnos i ddisgyblion cyfnod allweddol tri, ac unwaith yr wythnos i ddisgyblion cyfnod allweddol pedwar. Os yw disgyblion yn dewis astudio Addysg Gorfforol ar gyfer TGAU, mae pedair gwers yr wythnos. Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gyda chanolfan hamdden Plas Arthur, gyda’r disgyblion yn defnyddio llawer o gyfleusterau'r ganolfan ar gyfer Addysg Gorfforol.

Mae’r disgyblion wedi cael eu rhannu’n bedwar tŷ, Aethwy, Celyn, Menai a Mona. Yn ystod y Mabolgampau a’r Eisteddfod Ysgol, mae'r disgyblion yn eistedd yn eu tai ac yn cystadlu i wneud eu tai yn bencampwyr. Lliw tŷ Mona yw glas, Menai yn wyrdd, Aethwy yn felyn, a lliw Celyn yw coch. Mae hyn yn gyfle i'r disgyblion gystadlu yn erbyn eu gilydd mewn ffordd gyfeillgar.

Mae llawer o weithgareddau allgyrsiol yn cael eu cynnig yn yr ysgol, ac mae Plant mewn Angen yn uchafbwynt y flwyddyn wrth i'r ysgol godi llawer o bres yn flynyddol. Mae'r ysgol hefyd yn cymeryd rhan mewn diwrnod Trwyn Coch, a holl wiethgareddau'r Urdd.

Mae ei chyn-ddisgyblion enwog yn cynnwys yr arlunydd JacJones, y tenor opera Gwyn Hughes Jones, y cyflwynydd radio a theledu Hywel Gwynfryn;actores hollywood Naomi Watts, cerddor Pwyll ap sion a is -reolwr timpel-droed cymru Osian Roberts.

Roedd y Prif Lenor, Sonia Edwards yn athrawes Gymraeg yr ysgol.

Ysgolion cynradd yn nalgylch yr ysgol golygu

Cyn i flwyddyn 6 yr ysgolion cynradd yma drosglwyddo i'r ysgol uwchradd, mae nosweithiau agored ar gael iddynt er mwyn cael gweld yr ysgol a chael blas ar beth sydd o'u blaenau. Maen nhw hefyd yn dod i'r ysgol am dri diwrnod cyn Mis Medi, i fyw tri diwrnod yn rwtin YGLl.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ystadegau Ysgol Gyfun Llangefni".

Dolenni allanol golygu

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.