Hugh Owen (addysgwr)
Addysgwr o Gymru a gafodd ddylanwad mawr ar ddatblygiad y system addysg yng Nghymru oedd Syr Hugh Owen (14 Ionawr 1804 – 20 Tachwedd 1881). Ganwyd yn fferm 'Y Foel' ger Langeinwen, Ynys Môn, yn fab i Owen Owen a Mary Jones.
Hugh Owen | |
---|---|
Ganwyd | 14 Ionawr 1804 Llangeinwen |
Bu farw | 20 Tachwedd 1881 Menton |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | addysgwr |
Cysylltir gyda | Athrolys, Prifysgol Aberystwyth, Coleg Normal, Bangor |
Tad | Owen Owen |
Mam | Mary Jones |
Priod | Ann Wade |
Plant | Mima Owen, Hugh Owen |
Gwobr/au | marchog |
Ei fywyd
golyguDyngarwr Methodistaidd oedd Owen. Roedd yn un o hybwyr cyntaf Coleg y Normal, Bangor rhwng 1855 ac 1858 ac yn 1872 llwyddodd gyda chriw bychan o gefnogwyr i sefydlu Coleg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Cymerodd ran amlwg yng ngwaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru hefyd. Ond ei brif waith oedd sefydlu ysgolion canolraddol yng Nghymru. Cafodd ei urddo'n farchog yn Awst 1881, deufis cyn iddo farw. Claddwyd ef ym Mynwent Abney Park yn Stoke Newington, Llundain.
Beirniadaeth
golyguMae gwaith Hugh Owen fel addysgwr wedi ei feirniadu'n hallt gan rai haneswyr modern.[angen ffynhonnell] Ar sawl ystyr, roedd yn ŵr nodweddiadol o'r dosbarth canol Seisnig Fictoraidd yng Nghymru. Fe'i beirniadir am ei fethiant i greu cyfundrefn addysg a fyddai'n fwy addas i Gymru fel gwlad ac am esgeuluso i raddau helaeth le'r Gymraeg yn y gyfundrefn honno. Er ei fod yn Gymro Cymraeg, peth eilradd yn ei flaenoriaethau fu'r iaith yn ei gynlluniau addysg a bu rhaid aros am flynyddoedd i wneud yn iawn am hynny. Erbyn i hynny ddigwydd ac i'r iaith ddechrau ennill ei lle yn ysgolion Cymru roedd nifer ei siaradwyr wedi gostwng yn sylweddol a beirniadir Owen am fod yn rhannol gyfrifol am hynny trwy greu system addysg a Seisnigeiddiodd genhedlaethau o Gymry ifainc.
Y cof amdano
golyguEnwyd llyfrgell Prifysgol Aberystwyth ac Ysgol Syr Hugh Owen ar ei ôl.
Llyfryddiaeth
golygu- W. E. Davies, Cofiant Syr Hugh Owen (1885)
- B. L. Davies, Syr Hugh Owen (Caerdydd, 1977)