Humphrey Humphreys
esgob Bangor a Henffordd (yn olynol), hynafiaethydd, hanesydd, ac achyddwr
Roedd Humphrey Humphreys (24 Tachwedd 1648 - 20 Tachwedd 1712) yn Esgob Bangor rhwng 1689 a 1701, ac yna'n Esgob Henffordd hyd ei farwolaeth.
Humphrey Humphreys | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
24 Tachwedd 1648 ![]() Penrhyndeudraeth ![]() |
Bu farw |
20 Tachwedd 1712 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
offeiriad ![]() |
Swydd |
Esgob Henffordd, Esgob Bangor ![]() |
Cysylltir gyda |
Cymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol ![]() |
BywgraffiadGolygu
Ganed ef yn hen blasty'r Hendre, Penrhyndeudraeth. Roedd Humphreys yn esgob diwygiedig effeithiol ac yn Gymro twymgalon: yn ôl Edward Lhuyd ef oedd Cymro mwyaf ei oes. Roedd yn achyddwr, ysgolhaig a Christion nodedig. Claddwyd ei rieni - Richard Humphreys a Margaret Wynn (o deulu Cesailgyfarch, Penmorfa) ym mynwent hen eglwys Llanfrothen. Bu'n Ddeon Bangor cyn dod yn esgob. Bu farw Humphreys tra'n esgob Henffordd yn 1712.