Llanfrothen

pentref yng Ngwynedd

Pentref a chymuned yng Ngwynedd yw Llanfrothen ("Cymorth – Sain" ynganiad ), a leolir ychydig i'r gogledd o dref Penrhyndeudraeth. Saif lle mae'r ffordd B4410 yn croesi'r briffordd A4085. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Llanfrothen
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53°N 4°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000079 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Eglwys Brothen Sant, Llanfrothen

HanesGolygu

Gelwir y rhan hynaf o'r pentref yn Garreg, Llanfrothen, ac mae rhannau eraill o'r pentref ar wasgar i'r dwyrain a'r de-ddwyrain i Garreg, ar y ffordd fechan sy'n arwain i bentref Rhyd. Mae yno dafarn adnabyddus, y "Brondanw Arms" ("Y Ring" i bobl leol) ac ysgol gynradd. Ar y ffordd sy'n arwain i gyfeiriad Croesor mae Plas Brondanw, gynt yn gatref i'r pensaer Clough Williams-Ellis.

Gwasanaethodd yr emynydd Richard Jones (Cymro Gwyllt) (1772-1833) fel gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llanfrothen, lle treuliodd y rhan helaeth o'i oes (roedd yn frodor o blwyf Llanystumdwy, Eifionydd).

Cysegrwyd yr eglwys i Sant Brothen, a oedd yn un o feibion Helig ap Glannog yn ôl traddodiad. Dywedir y claddwyd y sant yno.[3] Ceir Ffynnon Frothen (neu'r Hen Ffynnon) ar bwys yr eglwys. Ceir nifer o nodweddion pensaernïol yn yr eglwys yn cynnwys ffenestr o'r 13g. Yn 1888 bu helynt enwog ynghylch hawl i gladdu ym mynwent yr eglwys, a'r achos hwn a ddaeth â David Lloyd George i amlygrwydd am y tro cyntaf. Mae bedd Mary Jones o Minffordd, a lofruddiwyd gan yr Hwntw Mawr yma.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfrothen (pob oed) (437)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfrothen) (296)
  
70.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfrothen) (270)
  
61.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfrothen) (72)
  
35.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.