Humphrey Lloyd
esgob Bangor
Clerigwr a fu'n Esgob Bangor oedd Humphrey Lloyd (Gorffennaf neu Awst 1610 – 18 Ionawr 1689).[1]
Humphrey Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 1610 |
Bu farw | 18 Ionawr 1689 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Bywgraffiad
golyguGaned ef yn Nhrawsfynydd, yn fab i Richard Lloyd, ficer Rhiwabon.
Bu yng Ngoleg yr Iesu, Rhydychen, ond graddiodd o Goleg Oriel, Rhydychen yn 1629. Bu'n rheithor Erbistock o tua 1627 ac ar farwolaeth ei dad yn 1647 daeth yn ficer Rhiwabon, ond trowyd ef allan yn 1650 gan y Pwyllgor er Taenu'r Efengyl yng Nghymru.
Pan adferwyd y brenin Siarl II adferwyd ef fel ficer Rhiwabon, a daeth yn ddeon Llanelwy yn 1663. Groeseddwyd ef fel Esgob Bangor at 5 Ionawr 1673/4. Bu mewn gwrthdrawiad â William Sancroft, archesgob Caergaint, ac a Thomas Gouge a'r Welsh Trust.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Nathaniel Salmon (1731). The lives of the English bishops from the Restauration to the Revolution (yn Saesneg). t. 158.