Rhiwabon

pentref a chymuned ym Mwrdeidref Sirol Wrecsam

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Rhiwabon (Saesneg: Ruabon, a chyn hynny: Rhuabon).

Rhiwabon
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.987°N 3.0397°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000243 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ303438 Edit this on Wikidata
Cod postLL14 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auKen Skates (Llafur)
AS/auSimon Baynes (Ceidwadwyr)
Map

Mae enw'r pentref yn dod o Rhiw a Mabon (enw sant lleol). Roedd eglwys y plwyf yn gysegredig i Sant Collen cyn cyfnod y Normaniaid a'r goresgyniad Seisnig, cyn ei newid i St Mabon.

Ceir gorsaf reilffordd yno ar y llinell o Amwythig i Gaer ac ysgol uwchradd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[1][2]

Yr hen blwyf golygu

Yn yr hen blwyf Rhiwabon roedd:

  • Rhiwabon - yn cynnwys Rhiwabon a'r cymunedau Belan, Bodylltyn, Hafod, a Rhuddallt
  • Cristionydd Cynrig (Saesneg: Christionydd Kenrick) - yn cynnwys Cefn Mawr, Rhosymedre, Acrefair, Penbedw, Penybryn
  • Coed Cristionydd - yn cynnwys Newbridge, Cefn Bychan
  • Dinhinlle Uchaf (a alwyd gynt yn Cristionydd Fechan neu Y Dref Fechan) - yn cynnwys Penycae, Coperas, Trefechan, Tainant, Stryt Isa
  • Dinhinlle Isaf - yn cynnwys Rhosymadog, Penylan
  • Morton is y Clawdd (Saesneg: Morton Below), a alwyd gynt yn Morton Anglicorum - yn cynnwys Johnstown, Clwt, Gyfelia
  • Morton uwch y Clawdd (Saesneg: Morton Above), a alwyd gynt yn Morton Wallichorum - yn cynnwys Rhosllannerchrugog, Ponciau, Pant
Yn 1844 symudwyd Coed Cristionydd & Cristionydd Cynrig i'r plwyf newydd Rhosymedre
Yn 1844 symudwyd rhanau o Dinhinlle Uchaf & Morton uwch y Clawdd i'r plwyf newydd Rhosllannerchrugog
Yn 1879 symudwyd rhanau o Dinhinlle Uchaf & Cristionydd Cynrig i'r plwyf newydd Penycae

Roedd Rhiwabon yn yr hen Sir Ddinbych tan 1974 ac yn Sir Clwyd rhwng 1974 a 1996, ond mae wedi bod ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ers 1996.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Rhiwabon (pob oed) (4,274)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhiwabon) (541)
  
13.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhiwabon) (3006)
  
70.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Rhiwabon) (586)
  
31.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]