Hunan-niweidio yw pan fydd rhywun yn brifo ei hun gan ei fod yn ei helpu i ddelio â theimladau anodd iawn, atgofion poenus neu sefyllfaoedd a phrofiadau llethol sy’n teimlo y tu hwnt i’w reolaeth.[1]

Yn aml, bydd pobl yn hunan-niweidio gan eu bod yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw opsiwn arall.

Mae 400 o bob 100,000 o boblogaeth y Deyrnas Unedig wedi ymddwyn yn hunan-niweidiol, sydd ymysg y cyfraddau uchaf o hunan-niwed yn Ewrop, ac mae cysylltiad cryf rhwng yr ymddygiad yma â phroblemau iechyd meddwl.

Bydd pobl sy’n hunan-niweidio yn gwneud hynny gan amlaf fel ffordd o geisio ymdopi â phoen maent yn ei deimlo. Gallent hefyd fod yn ceisio dangos bod rhywbeth o’i le, yn benodol os ydynt yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt. Mae’n hanfodol i’w cymryd o ddifrif.

Fodd bynnag, mae’n hollbwysig pwysleisio nad ceisio sylw yw’r rheswm dros hunan-niweidio. Mae’n arwydd cryf bod rhywbeth o’i le, rhywbeth yn eich poeni neu yn peri gofid dwys i chi. Nid yw’n golygu eich bod yn wallgof. Mae ymddygiad hunan-niweidiol yn aml yn gallu gwreiddio o iselder, diffyg hunanhyder, problemau perthnasau neu gamdriniaeth.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Hunan-niweidio". meddwl.org. 2017-02-28. Cyrchwyd 2022-03-07.
  2. "Ynglŷn â hunan-niweidio". www.mind.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-07.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Hunan-niweidio ar wefan  , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall