Huw Meirion Edwards

bardd a darlithydd

Bardd a darlithydd yw Huw Meirion Edwards.

Huw Meirion Edwards
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata

Magwyd Edwards yn Llanfairpwll ac yna yng Nghaerdydd, ac mae’n byw dros ugain mlynedd yn ardal Aberystwyth. Bu'n ddarlithydd yn Adran Gymraeg y Brifysgol, ac mae bellach yn aelod o staff Cyngor Llyfrau Cymru. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ym maes llenyddiaeth Gymraeg, yn enwedig barddoniaeth ganoloesol: mae’n un o olygyddion y gyfrol Cerddi Dafydd ap Gwilym (2010) a’r wefan Dafydd ap Gwilym.net. Mae’n fardd toreithiog a phrofiadol, yn aelod o dîm Talwrn y Cŵps ac o dîm ymryson Ceredigion, ac enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a’r Cylch 2004 gyda’r casgliad ‘Tir Neb’. Lygad yn Llygad (Gwasg y Bwthyn, 2013) yw ei gyfrol gyntaf o gerddi.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "www.gwales.com - 9781907424410, Lygad yn Llygad". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-10.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.