Hypatia
Roedd Hypatia, a aned tua 350-370 ac a fu farw 415 OC yn athronydd Helenistaidd a Phlatonaidd ac yn seryddwraig a mathemategydd, a oedd yn byw yn Alexandria, yr Aifft.[1]
Hypatia | |
---|---|
Ganwyd | c. 360 Alexandria |
Bu farw | Mawrth 415 o blingiad Alexandria |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd |
Galwedigaeth | mathemategydd, athronydd, seryddwr, llenor, dyfeisiwr |
Prif ddylanwad | Platon, Plotinus, Aristoteles, Theon of Alexandria, Diophantus of Alexandria, Ptolemi |
Mudiad | neo-Platoniaeth |
Tad | Theon of Alexandria |
Roedd hi'n feddyliwr amlwg o ysgol athroniaeth y Plato Newydd yn Alexandria, lle bu'n dysgu athroniaeth a seryddiaeth.
Hi yw'r mathemategydd benywaidd cyntaf y mae ei bywyd wedi'i gofnodi'n eithaf trylwyr. Roedd Hypatia'n enwog yn ei oes ei hun fel athro gwych a chynghorydd doeth. Mae'n hysbys ei bod wedi ysgrifennu sylwebaeth ar waith Diophantus, sef Arithmetica.[2]
Er mai Pagan ydoedd, roedd hi'n oddefgar tuag at Gristnogion gan ddysgu llawer o fyfyrwyr Cristnogol, gan gynnwys Synesius, a ddaeth yn esgob Ptolemais. Mae ffynonellau hynafol yn cofnodi bod Hypatia yn cael ei pharchu gan Baganiaid a Christnogion fel ei gilydd a bod hi ganddi ddylanwad mawr dros uchelwyr elitaidd, gwleidyddol Alexandria. Tua diwedd ei hoes, rhoddodd Hypatia gyngor i Orestes, rhaglaw Rhufeinig Alexandria, a oedd yng nghanol brwydr wleidyddol â Cyril, esgob Alexandria. Lledaenodd sibrydion yn ei chyhuddo o atal Orestes rhag cymodi â Cyril ac, ym Mawrth 415 OC, llofruddiwyd Hypatia gan dorf o Gristnogion a arweiniwyd gan ddyn o'r enw Pedr.
Syfrdanwyd yr ymerodraeth Rufeinig gan farwolaeth Hypatia, a'i thrawsnewid yn "ferthyr i athroniaeth", gan ddylanwadu ar y athronwyr y Plato Newydd i fod yn fwy gwrth-Gristnogol. Yn ystod yr Oesoedd Canol, ystyriwyd Hypatia yn symbol o rinweddau Cristnogol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Petta, Adriano; Colavito, Antonino (2009). Hypatia, scientist of Alexandria, 8th Mawrth 415 A.D. Lampi di stampa.CS1 maint: ref=harv (link)
- ↑ Krebs, Groundbreaking Scientific Experiments, Inventions, and Discoveries; The Cambridge Dictionary of Philosophy; ail argraffiad, Cambridge University Press, 1999: "Greek Neoplatonist philosopher who lived and taught in Alexandria."