Hywel ab Edwin

brenin Deheubarth

Roedd Hywel ab Edwin (bu farw 1044) yn frenin Deheubarth o 1033 hyd ei farw yn 1044.

Hywel ab Edwin
Bu farw1044 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
TadEdwin ab Einion Edit this on Wikidata

Roedd Hywel yn fab i Edwin ab Einion o linach Hywel Dda. Pan fu Rhydderch ap Iestyn, oedd wedi cipio teyrnas Deheubarth, farw yn 1033 daeth Hywel yn frenin Deheubarth, yn ei rhannu gyda'i frawd Maredudd.

Yn 1035 bu farw Maredudd, gan adael Hywel i deyrnasu er ei ben ei hun. Daeth dan bwysau oherwydd ymosodiadau y Llychlynwyr a Gruffudd ap Llywelyn oedd wedi ei wneud ei hun yn frenin Gwynedd. Yn 1042 neu 1043 gyrrwyd ef allan o'i deyrnas gan Gruffudd, ond dychwelodd yn 1044 gyda byddin yn cynnwys Daniaid. Gorchfygodd Gruffudd hwy mewn brwydr ger aber Afon Tywi a lladdwyd Hywel.

Cyfeiriadau

golygu