Rhydderch ap Iestyn
Roedd Rhydderch ab Iestyn (bu farw 1033) yn frenin Gwent a Morgannwg yn ne Cymru ac yn ddiweddarach yn frenin Deheubarth ac yn rheoli Powys.
Rhydderch ap Iestyn | |
---|---|
Ganwyd | 10 g |
Bu farw | 1033 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | brenin |
Plant | Gruffudd ap Rhydderch, Caradog ap Rhydderch, Rhys ap Rhydderch |
Ychydig sydd wedi ei gofnodi am Rhydderch ab Iestyn yn y brutiau. Ymddengys iddo ddechrau ei yrfa fel rheolwr Gwent a Morgannwg, lle’r oedd prif ganolfan ei fab yn nes ymlaen. Pan fu farw Llywelyn ap Seisyll, brenin Gwynedd a Deheubarth yn annisgwyl yn 1023, cymerodd Rhydderch feddiant o Ddeheubarth, trwy rym i bob golwg. Yn 1033 cofnododd Brut y Tywysogion fod Rhydderch wedi ei ladd gan y Gwyddelod, ond heb eglurhad o’r amgylchiadau.
Dychwelodd Deheubarth i’r tŷ brenhinol traddodiadol dan Hywel ab Edwin a’i frawd Maredudd. Cofnodwyd i Hywel a Maredudd ymladd brwydr yn erbyn meibion Rhydderch y flwyddyn ganlynol. Yn 1045 gallodd mab Rhydderch, Gruffudd ap Rhydderch, gipio Deheubarth oddi wrth Gruffudd ap Llywelyn a dal gafael ar y deyrnas am ddeng mlynedd nes i Gruffudd ei chymeryd yn ôl
Llyfryddiaeth
golygu- John Edward Lloyd A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)
- Brut y Tywysogion: Peniarth MS. 20, gol. Thomas Jones (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1941)
Rhagflaenydd: Rhys ab Owain ap Morgan Hen, Iestyn ab Owain ap Morgan Hen, a Hywel ab Owain ap Morgan Hen |
Brenin Morgannwg 1015–1033 |
Olynydd: Gruffudd ap Rhydderch |
Rhagflaenydd: Iestyn ab Owain ap Morgan Hen |
Cyd-frenin Glywysing (gyda Hywel ab Owain ap Morgan Hen) 1015–1033 |
Olynydd: Gruffudd ap Rhydderch |
Rhagflaenydd: Llywelyn ap Seisyll |
Brenin Deheubarth 1023–1033 |
Olynydd: Hywel ab Edwin |