Dewch o hyd i iaith
Rhowch god ISO 639-3 i ddod o hyd i'r erthygl iaith gyfatebol.

ISO 639-3:2007, Codau am y gynrychiolaeth o'r enwau o ieithoedd — Rhan 3: Côd Alffa-3 ar gyfer sylw cyflawn o'r ieithoedd, yw safon ryngwladol am god ieithoedd yng nghyfres ISO 639. Mae'r safon yn disgrifio codau tair‐lythyren ar gyfer adnabod ieithoedd. Mae'n ehangu codau ISO 639-2 alffa-3 gyda'r amcan o roi sylw i bob iaith naturiol wybyddus. Cyhoeddwyd y safon gan ISO ar 2007-02-05.[1]

Bwriedir defnyddio'r system mewn ystod eang o sefyllfaoedd, ond yn benodol mewn systemau cyfrifiaduron ble mae angen cefnogi nifer fawr o ieithoedd. Mae'n ceisio cynnwys cymaint o ieithoedd a phosib, gan gynnwys byw a darfodedig, hynafol ac adeiladu, mawr a bach, ysgrifenedig ac anysgrifenedig.[1] Nid yw'n cynnwys ieithoedd ailadeiladwyd fel Proto-Indo-Ewropeg.[2]

Mae'n uwchset o ISO 639-1 ac o'r ieithoedd unigol yn ISO 639-2. Roedd ISO 639-1 ac ISO 639-2 wedi canolbwyntio ar y prif ieithoedd, a oedd yn cynrychioli cyfran helaeth o holl lenyddiaeth y byd. Gan bod ISO 639-2 hefyd yn cynnwys casgliadau iaith a dydy Rhan 3 ddim, nid yw ISO 639-3 yn uwchset o ISO 639-2. Ble mae codau B a T bododi yn ISO 639-2, mae ISO 639-3 yn defnyddio'r codau T.

Esiampl:

Iaith 639-1 639-2 (B/T) math
639-3
côd
639-3
Saesneg en eng unigol eng
Almaeneg de ger/deu unigol deu
Arabeg ar ara macro ara
unigol arb + eraill
Minnan unigol nan

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "ISO 639-3 status and abstract". iso.org. 2010-07-20. Cyrchwyd 2012-06-14.
  2. "Types of individual languages - Ancient languages". sil.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-26. Cyrchwyd 2012-06-14.

Dolenni allanol golygu